Â鶹Éç

Saith mil o filltiroedd i'r Brifwyl

Madlen gyda Bethan ei mam

02 Mehefin 2010

Heb os y cystadleuydd sydd wedi teithio bellaf i fod yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron eleni ydi Madlen Bevan, naw oed.

Mae Madlen a fu'n cystadlu ddoe ar lefaru i ddysgwyr, blynyddoedd 3 a 4, saith mil o filltiroedd oddi cartref ac fe gymerodd 17 awr iddi deithio yno o ddrws ei thÅ· yn Singapore lle mae'n byw gyda'i mam a'i thad, Bethan a Huw Bevan, sy'n bennaeth rhaglenni gyda chwmni teledu, a'i chwaer, Miriam, 17 oed.

Dyma'r ail dro i Madlen deithio i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r tro hwn yr oedd o fewn un i gael llwyfan o'r rhagbrofion.

"Yr oedd hynny yn arbennig o siomedig - ei bod hi mor agos," meddai Bethan ei mam, sy'n dod o Gwm Tawe yn wreiddiol ac yn gyfarwydd iawn â chystadlu yn eisteddfodau'r Urdd.

Dywedodd mai'r unig Gymraeg y mae Madlen yn ei chlywed yn Singapore yw ar yr aelwyd adref.

I gyrraedd y Genedlaethol cystadlodd Madlen yn yr eisteddfod sirol trwy gyfrwng Skype yn cael ei gwylio o'i chartref ar sgrin fawr yng Nghaerdydd gan y beirniaid.

Efallai mai Dweud Dim oedd y darn y bu'n cystadlu arno ond yn sicr bydd gan Madlen ddigon i'w ddweud am y profiad o gystadlu yn yr Urdd ac am yr Eisteddfod pan ddychwel at ei ffrindiau yn Singapore.

"Does yna ddim byd tebyg i'r eisteddfod yno," meddai Bethan a ddywedodd i Madlen ddechrau ymddiddori o fod yn gwylio'r Å´yl ar y we.

Ychwanegodd ei bod wrth ei bodd gyda diddordeb Madlen mewn llefaru ac yn yr Eisteddfod.

"Yr oedd yn gymaint rhan o mhlentyndod i," meddai.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Pobol, pethau digwyddiadau - pob math o luniau o'r Maes

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Grŵf!

Gêm: Yn y Grŵf

Gêm newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.