Un o nofelwyr mwyaf poblogaidd Cymru, Caryl Lewis, fydd llywydd y dydd yn Llanerchaeron ddydd mercher.
Merch o Ddihewyd yw Caryl Lewis, ond bellach mae'n byw ger pentref Goginan gyda'i gŵr Aled a'u mab Hedd.
Enillodd ei hail nofel Martha, Jac a Sianco, wobr Llyfr y Flwyddyn 2005 a'i nofel Iawn Boi? wobr Tir na n-Og yn 2004. Cafodd ei nofelau Y Rhwyd a Martha, Jac a Sianco eu haddasu ar gyfer y teledu.
Yn ogystal ag ysgrifennu nofelau a sgriptio caiff Caryl fwynhad mawr wrth ysgrifennu ar gyfer plant bach yn y gyfres boblogaidd Bili Boncyrs.