Mae piano sydd weddi derbyn cymeradwyaeth bersonol Alicia Keys ar werth ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.
Dyma'r piano hefyd oedd i fod i sefyll yng nghartref Michael Jackson pan oedd ar ymweliad â Phrydain ond iddo farw cyn yr ymweliad.
"Yr oeddem fod i osod y piano yno ar y dydd Iau ond fe fu ef farw ar y dydd Mawrth," meddai Gerallt Elfyn Lewis ar safle cwmni pianyddion Coach House o Abertawe yng nghanolfan groeso'r Eisteddfod.
Gerallt yw tiwniwr pianos swyddogol yr Eisteddfod ac yn gwneud gwaith i'r cwmni teuluol o Abertawe hefyd.
Bydd yn reit hawdd adnabod y piano Schreiner ar safle Coach House gan ei bod wedi ei gwneud o berspecs tryloyw.
Dywedodd Gerallt iddi gael ei chanu gan Alicia Keys yn rownd gyn derfynol X-Factor ar y teledu ac i Alicia anfon llythyr yn ei llawysgrifen ei hun yn mynegi ei bodlonrwydd gyda'r offeryn ac yn diolch amdani.
Wedi ei phrisio'n £20,000 yn wreiddiol mae'r piano yn awr ar werth am £14,995 ond go debyg y byddai wedi bod werth llawer iawn mwy pe byddai Michael Jackson wedi cael ei fysedd arni.
Yn dod o Lanon mae Gerallt yn diwniwr pianos ers dros ugain mlynedd ac wedi ei hyfforddi mewn coleg yn Ystrad Mynach.
Ef sy'n tiwnio pianos yr Eisteddfod yr wythnos hon ac mae honno ynddi'i hun yn dipyn o her gan fod ansawdd y sŵn yn dirywio'n gyflym yn y tymheredd amrywiol,
"Mae hi'n grasboeth yma yn ystod y dydd ond yr oeddwn i ar lwyfan y pafiliwn bump o'r gloch y bore ma ac roedd hi fel yr Arctig," meddai.
Dywedodd i'r 'piano Michael Jackson' fel mae'n prysur gael ei galw wrth i'w hanes ledaenu ar y maes wedi ei chynllunio yn yr Almaen a'i hadeiladu yn y Dwyrain Pell.
"Rhywbeth sy'n arferol iawn y dyddiau hyn," meddai.
Ar gyfer yr Eisteddfod hon bu Gerallt yn gyfrifol hefyd am gynhyrchu CD Lleisiau Llansanffraed gyda Catrin Finch a Tommi Jones, sydd yn ei wythdegau ac yn chwarae'r llif!