Tri Llywydd Anrhydeddus yr Eisteddfod yn Llanerchaeron yw; Gareth Jones, Geraint thomas a Carol davies.
Gareth Jones
Ganwyd Gareth ym Mrynaman a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Aeth yn ei flaen i dderbyn gradd mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe. Dychwelodd adref yn 1975 a chael ei benodi yn Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.
Fe'i penodwyd yn ddirprwy brifathro Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ym 1985 yna fe'i gwnaed yn brifathro'r ysgol ym 1986. Gadawodd ei swydd fel prifathro yn 2001 ac ymunodd â Chyngor Ceredigion fel Cyfarwyddwr yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol, ble'r arhosodd tan ei ymddeoliad yn 2008.
Mae gan Gareth ddiddordeb mawr yng ngweithgareddau'r Urdd ac mae wedi ymweld â phob Eisteddfod ers cyn cof.
Geraint Thomas
Ganwyd Geraint yng Nghorris, ond symudodd y teulu i Ystalyfera pan oedd yn ifanc. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Y Wern ac Ysgol Ramadeg Ystalyfera.
Derbyniodd ei radd yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin wedyn fe'i penodwyd yn athro yn Ysgol Gynradd Aberdyfi yna'n athro yn Ysgol Gynradd Penparcau, Aberystwyth ymhen dwy flynedd.
Treuliodd y 25 mlynedd nesaf yn bennaeth rhai o ysgolion cynradd Ceredigion gan gynnwys Ysgol Myfenydd, Ysgol Tal-y-bont ac Ysgol Llwyn yr Eos.
Mae Geraint yn edrych ymlaen at dreulio'r Sulgwyn ar faes Eisteddfod yr Urdd, a dywed mai anrhydedd mawr yw cael ei wahodd i fod yn Llywydd Anrhydeddus. Mae'n argyhoeddedig y bydd yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol ac mae'n gobeithio y daw pobl o bob cwr o Gymru i Lanerchaeron i werthfawrogi'r arlwy fydd yno ar eu cyfer.
Carol Davies
Ganwyd Carol ym Mhontrhydygroes ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth, Ysgol Uwchradd Tregaron a Phrifysgol Caerdydd. Cyn ymddeol yn 2004, treuliodd bron i chwarter canrif yn brifathrawes Ysgol Gynradd Capel Cynon.
Mae Carol wedi bod yn weithgar iawn yn enw'r Urdd dros y blynyddoedd. Derbyniodd sawl llwyddiant fel unigolyn ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod ei harddegau a hi fu'n gyfrifol am sefydlu Aelwyd yr Urdd Orllwyn Teifi yn y saithdegau. Mae hefyd wedi beirniadu mewn sawl Eisteddfod cylch, rhanbarth a chenedlaethol.
Mae Carol yn edrych ymlaen at ymweld â Maes yr Eisteddfod yn Llanerchaeron dros y Sulgwyn ac yn dymuno pob llwyddiant i'r ŵyl.