麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mae'r gaeaf wedi dod Gaeaf a Dolig yn Taiwan a chyfle i gofio'r Rhyfel
Mae Gareth Gwyn yn Gymro sy'n byw yn Taipei. Dyma ei gyfraniad diweddaraf.


Mae rhai o'r trigolion lleol yn honni fod y gaeaf wedi cyrraedd Taipei. Yn anffodus rwy'n ei chael yn anodd deall hyn gyda'r tymheredd yn y ugeiniau uchaf ac ambell i ddiwrnod heulog, ddigon i droi'r croen yn frown.

Mae'r dillad gaeaf wedi dod allan o'i cwpwrdd, pawb gyda chot fawr y gaeaf, sgarff a rhai gyda het.

Wn i ddim beth fuasai'n digwydd iddynt ar lethrau Eryri! Rhewi'n gorn reit siwr.

Pysgodlyd
Bu'r cariad, Marie-Louise, a minnau yn grwydro rhywfaint dros y misoedd diwethaf. Taith mewn awyren fechan i'r Ynysoedd Dropig Pescadores' sydd rhwng y tir mawr, China, a Taiwan.

Y Portiwgeaid enwodd yr ynys yn Pescadores sy'n golygu Pysgotwyr yn iaith Portiwgal.

Pescadores, Pescados yn Sbaeneg, Poissons yn Ffrangeg ac, wrth gwrs, Pysgod yn Iaith y Nefoedd..

Tybed oes unrhyw gyswllt rhwng y geiriau yma?

Os ydych yn yr ardal, mae'r Pescadores werth eu gweld, y môr yn glir ac yn lân, bwyd môr gwych, pentrefi pysgotwyr tlws a digonedd o dywod melyn.

Y Philippines
Mis Medi aethom i'r Philippines i dreulio chwe diwrnod yn deifio scuba.

DeifioWel am le braf, yn y môr cynnes bob dydd - 28 gradd c - ymysg y pysgod trofannol - a Siarcod!

Ia wir, rhai anferth ond roeddynt yn reit dda ac yn cadw'n ddigon pell oddi wrthym.

Rhaid ei fod yn amau nag Cymro oeddwn i!

Carchar rhyfel
Ychydig benwythnosau'n ôl aethom i wasanaeth Sul y Cofio gyda gwasanaeth ar lethrau uwchlaw cyn garchar rhyfel Siapaneaidd Chinguashi (Gwersyll Uffern) ar arfordir gorllewin Taiwan.

Carchar mewn chwarel gopr oedd o gyda mwy nag 1,100 o garcharion rhyfel Prydeinig a'r Gymanwlad yno am flynyddoedd yn dioddef a'u hamddifadu.



Rwy'n deall fod o leiaf dau Gymro wedi bod yn garcharion yma, Les Davis a Jack Edwards a mynychodd y ddau y gwasanaeth y llynedd.

Yn anffodus, nid oeddynt yno eleni. Buaswn wedi hoffi eu cwrdd wrth gwrs.

Ymweld â Chymru
Dim ond ychydig o ddyddiau i fynd a bydd Marie-Louise a minnau yn hedfan i Gymru, i dreulio cyfnod gyda fy nheulu ym Mangor a'r cyffiniau gan edrych ymlaen at weld y Dolig.

Nid oes sôn am Ddolig yma yn Nhaiwan, sydd, yn hollol naturiol, o wlad y Bwda.

Nid oes miri na sbri ychwaith na neb yn mynd yn hurt ac yn gwario fel nad os yfory ar anrhegion.

Mae gwadd i bawb ddod draw i Taipei ar Ragfyr 21 am ginio Dolig Cymreig yng ngwesty'r Far Eastern Hotel gyda htrigolion y Clwb Cymraeg.

Bydd Mark Kirk o Dde Cymru, sydd yn rheolwyr ar yr adran fwydydd a diodydd, yn paratoi cinio gwerth chweil gyda blas Cymreig iddo!





asia

Taiwan
Serch a chân!

Gaeaf a Dolig yn Taiwan a chyfle i gofio'r Rhyfel

Taipei - hanes clwb y Cymry

Bwlet a Saesneg




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy