麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gareth Gwyn Jones a Hywel Bwlet a Saesneg
Hywel Gwynfryn yn cyfarfod dau o Gymry Taiwan

Yn ystod ei ymweliad â Taiwan cyfarfu Hywel Gwynfryn â dau fachgen o Gymru, Gareth Gwyn Jones ac Andy Ings, sy'n byw yno.

Yn wreiddiol o Frynsiencyn a Bangor, mae Gareth yn gweithio i gwmni sy'n datblygu trên bwled newydd ar gyfer Taiwan.

Dyma'r trenau cyflymaf yn y byd sy'n medru teithio 200 milltir mewn 90 munud.

Yn Taipei y cyfarfu Hywel ag ef lle mae'n byw, yn adeilad 101, adeilad ucha'r byd ac wedi ei enwi ar ôl y nifer o loriau sydd ynddo.

Bywyd braf iawn
Mae Taipei yn ddinas o saith miliwn o bobl, ac yma y mae Gareth a'i wraig o Ganada yn byw yn dilyn eu priodas yn Eglwys Llanddeiniolen.

Mae'n Gareth yn cyfaddef bod ganddo "fywyd braf, llawn" yn Taipei lle mae gweithwyr y ddinas yn gweithio yn galed ac yn llafurio am oriau hir, ond gerllaw mae cefn gwlad hyfryd, mynyddoedd a thraethau.

Mae digon o gyfleon i gael hoe a chymryd amser i feddwl a myfyrio, yn y temlau y tu allan Taipei neu rwyfo ar yr afon, dau beth a brofodd Hywel yn ystod ei ymweliad.

Dysgu Saesneg
Profodd bethau ychydig yn fwy mentrus hefyd wrth i Snake Alley gynnig danteithion diarth a difyr... gan gynnwys gwenwyn neidr a chig neidr.

Mae Andy Ings yn byw yn Taiwan ers pymtheng mlynedd ond yn wreiddiol o Gaerdydd lle bu'n ddisgybl yn ysgolion Bryntaf a Glantaf.

Ac yntau'n briod â merch o Daiwan, mae wedi hen setlo yno, ac mae'r ddau'n rhedeg cwmni dysgu Saesneg.

Ef aeth â Hywel i far 'yr amlen goch' sy'n boblogaidd gyda'r bobl leol.

  • Ar Dy feic, Taiwan. Nos Lun, Mehefin 12, 2006. 麻豆社 Cymru ar S4C. 9.00pm




  • asia

    Taiwan
    Serch a chân!

    Gaeaf a Dolig yn Taiwan a chyfle i gofio'r Rhyfel

    Taipei - hanes clwb y Cymry

    Bwlet a Saesneg




    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy