麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sgwar yr Arwyr Y Pasg yn Hwngari
Newyddiadurwraig Gymraeg sy'n byw ym Mwdapest ydi Eirian Hasler. Yma mae'n edrych ymlaen at y Pasg a'i wyau cochion a'i drochi . . .

Mae dynion Hwngari yn griw anniolchgar!
Dros benwythnos y Pasg mae'r merched yn aros ar eu traed yn hwyr i beintio wyau yn anrhegion iddyn nhw.

A pha ddiolch maen nhw'n 'i gael?
Wel pwced o ddŵr oer am eu pennau fore Llun!

Locsolkodas sef Diwrnod Trochi, neu Ddydd Llun Trochi ydi'r enw ar ddydd Llun y Pasg yma oherwydd y traddodiad fod y bechgyn yn taflu pwcedaid neu botelaid o ddŵr dros y merched.

Mae nhw'n adrodd penillion sy'n dweud peth mor dda yw cael eich gwlychu wrth wneud hynny!

Maen nhw yn cadw'n gwbl sych wrth gwrs!

Mae gwahanol benillion - rhai yn cymharu'r ferch â'r lili sy'n gwywo heb ddŵr. Eraill yn sôn pa mor dda ydi dŵr i iechyd, cartref a thir.

Persawr - rhad!
Heddiw mae'r traddodiad wedi newid ychydig a'r bechgyn yn debycach o daflu dŵr gyda phersawr ynddo fo - i wallt y merched.

Y gŵyn fawr ydi fod y bechgyn yn chwilio am y persawr rhataf a oed yn boblogaidd yn ystod blynyddoedd comiwnyddiaeth ac mae hi bron yn amhosibl cael gwared o'r aroglau am ddyddiau wedyn - faint bynnag o weithiau wnaiff rhywun olchi'i gwallt!

Eu taflu i'r dŵr
Ers talwm roedd yr arferiad yma'n fwy garw fyth pan fyddai'r bechgyn yn cario'r merched i bwll, ffynnon neu afon agos fel y byddai hi'n gwawrio i'w taflu i'r dŵr.

Ac roedd disgwyl i'r merched ddod allan o'r dŵr nid yn unig gyda gwên ar eu hwynebau ond hefyd yn barod i roi anrhegion o wyau wedi eu haddurno, bara a gwydraid o win neu frandi i'r bechgyn.

Y syniad y tu ôl i'r gwlychu ydi y byddai'n gwneud y merched yn wragedd da a chryfion a fyddai'n cael llawer o blant.

bechgyn poblogaidd
Ac fel yr oedd merch yn addurno'r wyau - ac fe fyddai rhai yn rhoi nifer fawr i un bachgen - gwyddai y byddai yna gystadleuaeth fawr am fachgen poblogaidd gyda wyau'n cael eu rhoi iddo gan nifer o ferched.

Bydda'r bachgen lwcus yn cadw'r wyau yn ddiogel am rai wythnosau cyn edrych arnyn nhw eto a phe byddai un wy yn colli mwy o'i liw na'r gweddill golygai fod y ferch a roddodd yr wy hwnnw iddo yn ei golli'n arw!

Arlunydd wyau
Pe na byddai merch yn llawer o arlunydd roedd gan bron bob pentref ei arlunydd wyau ei hun, iroaszszony - allai ei chynorthwyo - hen wraig a fu'n gwneud y gwaith ers blynyddoedd, fel rheol.

Wyau coch ydi'r enw ar yr wyau wedi eu haddurno.

Ers talwm byddai'r wyau yn cael eu berwi mewn dŵr efo nionyn coch a hynny'n peri i'r plisgyn droi'n goch.

Wedyn byddai'r ferch yn ei addurno â phob math o liwiau eraill.

Dangos eu doniau
Mae'r traddodiad o beintio wyau yn dal yn gryf hyd yn oed heddiw gyda merched yng nghyntedd rhai gwestai yn arddangos y ddawn ac yn peintio lluniau o adar neu flodau ar wyau o wahanol faint.

Ac, wrth gwrs, yn rhoi cyfle i bobol eu prynu yn anrhegion anghyffredin.

Mewn llawer o'r swyddfeydd mae wyau bach yn cael eu defnyddio i addurno cangen o goeden - yn debyg iawn i'r ffordd rydym ni'n defnyddio peli o wahanol liwiau i addurno coeden Nadolig.

Dydd Gwener
Yn wahanol i Brydain, dydi dydd Gwener y Groglith, nagy-pentak, ddim yn wyliau yma.

Yn draddodiadol dyma ddiwrnod olaf y Grawys ac felly ni fyddai neb yn bwyta dim yn ystod y dydd.

Ac erbyn hyn byddai'r tŷ wedi'i lanhau o'r top i'r gwaelod, a'r holl fwyd ar gyfer y penwythnos wedi cael ei baratoi.

Mewn rhai ardaloedd roedd yr wyau i gyd wedi eu haddurno hefyd ond mewn lleoedd eraill ar y dydd Gwener ei hun yr oedd y merched yn dechrau ar y gwaith.

Y Sadwrn
Ar y Sadwrn, nagyszombat, bydd teuluoedd yn rhoi bwyd fel ham, wyau cochion, halen ac weithiau botelaid o win mewn basged a mynd a hwy i'r eglwys i'w bendithio.

Bydd y bwyd yn cael ei fwyta wedyn ar ôl y gwasanaethau sy'n nodi'r atgyfodiad.

Y tu allan i'r eglwys bydd y plant yn rhoi wyau i'w gilydd fel arwydd o gyfeillgarwch.

Cig eto
Husvet ydi'r enw sy'n cael ei roi ar y Pasg - Gŵyl o Gig a hynny gan fod pawb yn cael dechrau bwyta cig eto ar ôl ymwrthod ag ef yn ystod deugain niwrnod y Grawys.

Senedd-dyEr bod wyau yn rhan bwysig o holl weithgareddau'r Pasg peth gweddol newydd yw'r arfer o roi wyau siocled a hynny'n rhywfaint o syndod o weld mor hoff yw'r bobl o bethau melys.

Ond ychydig iawn sydd ar werth yn y siopau lle mae siocledi bychain o siâp cwningod neu gywion bychain yn fwy poblogaidd.

Ond at y plant mae'r rhain wedi'u hanelu gan amlaf.

Ond does dim rhaid poeni gan ei bod yn bosib cael Pasg reit felys a phwy sydd angen wy siocled lle mae pob mathau o ddanteithion marzipan gael!! Boldog husveti unnepeket es sok piros tojast - Pasg hapus a llawer o wyau coch ichi!






ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy