Pam fod cymaint wedi bod yn protestio yn yr Wcráin yn dilyn yr etholiad? Roedd rhai yn honni nad oedd canlyniad yr etholiad cyffredinol gynhaliwyd yn ddiweddar yn un teg.
Yn ôl yr awdurdodau, Prif Weinidog presennol yr Wcráin, Viktor Yanuokovych, enillodd. Yanukovych yw hoff ymgeisydd Rwsia ac Arlywydd presennol yr Wcráin, Leonid Kuchma.
Ond yn ôl polau piniwn, 'roedd yr ymgeisydd mwy rhyddfrydol, Viktor Yushchenko, ar y blaen o gryn dipyn.
Cefnogwyr Yushchenko welwyd yn protestio ar strydoedd Kiev: mae rhai'n honni eu bod nhw wedi cael eu bygwth yn ystod yr ymgyrchu, a bod cefnogwyr Yanukovych wedi cael pleidleisio mwy nag unwaith drosto.
Yn awr mae'r Goruchaf Lys wedi caniatau cynnal yr etholiad eto.
Beth yw'r gwahaniaethau rhwng Viktor Yanukovych a Viktor Yushchenko? Yn syml, mae Yanukovych yn awyddus i gryfhau'r berthynas rhwng yr Wcráin a Rwsia, tra bod Yushchenko yn credu mai yn yr Undeb Ewropeaidd y mae dyfodol y wlad.
Yng ngorllewin yr Wcráin y mae'r rhan fwyaf o gefnogwyr Yushchenko, a'r mwyafrif yn siarad Wcreineg.
Ar y llaw arall, Yanukovych sydd fwyaf poblogaidd yn nwyrain y wlad lle siaradir Rwseg yn bennaf.
Pan sefydlwyd gweithfeydd glo a dur yn y dwyrain gan Stalin, symudodd llawer o Rwsiaid yno i chwilio am waith.
Pam fod canlyniad yr etholiad mor bwysig? Pe byddai Goruchaf Lys yr Wcráin wedi cadarnhau mai Yanukovych enillodd yr etholiad, byddai ymdrechion America i swyno'r wlad at y Gorllewin wedi methu.
I bob pwrpas, Washington ariannodd ymgyrch Yushchenko yn y gobaith y byddai ei fuddugoliaeth yn ergyd i ddylanwad Rwsia dramor.
Gan fod y llys wedi penderfynu o blaid Yushchenko, mae strategaeth America yn cael ail gyfle, a gallwn ddisgwyl iddi ariannu mwy o ymgyrchoedd gwleidyddion sy'n sefyll yn erbyn arweinwyr 'annymunol' mewn etholiadau tramor.
Mae'r etholiad arfaethedig ym Moldofa yn darged amlwg.
Beth ddigwyddodd nesaf? Apeliodd Yushchenko yng Ngoruchaf Lys yr Wcráin, gan honni fod canlyniad yr etholiad yn annheg.
Allai pethau waethygu yn yr Wcráin? Roedd llawer yn disgwyl protestiadau treisgar pe byddai'r llys yn gwrthod apêl Yushchenko neu'n cymryd gormod o amser i benderfynu.
Galwodd Yushchenko am streic gyffredinol a bu'n rhaid wrth heddlu arfog sawl tro i gadw trefn ar brotestwyr y tu allan i'r adeiladau arlywyddol yn Kiev.
Gwefannau eraill
Nid y 麻豆社 sy'n gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
|