Aneirin Karadog
Pwnc arbenigol: Ffilmiau Superman 1 - 4
Mae Aneirin yn gyflwynydd ar raglen Wedi 7. Mae'n fardd sy'n ysgrifennu mewn cynghanedd ac mae'n adnabyddus am rapio gyda grwpiau fel Y Diwygiad a Genod Droog.
Mae wedi cyhoeddi ei farddoniaeth mewn detholiadau amrywiol gan gynnwys casgliad o farddoniaeth ar y cyd gyda phedwar bardd Cymraeg arall o dan y teitl Crap ar Farddoni.
Fe'i ganwyd yn Llanrwst ac fe'i magwyd yng nghymoedd de Cymru. Mae'n fab i Gymro a Llydawes, ac mae'n siarad pum iaith - Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg.
Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yng Ngoleg Newydd, Rhydychen.
Sefydlodd y rhaglen Gymraeg gyntaf ar y rhyngrwyd, sef Siaradog.
Holi Aneirin
Sut aeth hi yn y stiwdio?
Ar wahân i ateb y cwestiynau, iawn! Roedd fy rownd arbenigol yn iawn ond aeth hi o ddrwg i waeth gyda'r wybodaeth gyffredinol.
Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?
Hynod o nerfus, cymaint nes imi chwysu eitha tipyn yn y gadair, oedd ddim yn neis i weddill y cystadleuwyr wy'n siwr!
Oedd Betsan yn gwneud i chi deimlo'n nerfus?
Dim cymaint Betsan â cherddoriaeth y rhaglen, y spotlight ar y gadair a'r gadair ddu ei hunan. Ro'n i'n reit gyffyrddus yn sgwrsio gyda Betsan rhwng y ddau rownd am fy niddordebau ac yn y blaen, i'r graddau mod i di anghofio pam o'n i yn y gadair wrth sgwrsio â hi!
Pam dewisoch chi eich pwnc arbenigol?
Am fy mod i'n hoff o ffilmiau Superman pan yn fachgen a bod 'na rhywbeth am wisgo trôns ar y tu fas sy'n apelio.
Oeddech chi'n hapus efo eich perfformiad?
Fel y soniais, ro'n i'n go hapus â'r rownd arbenigol ond fe rewodd fy meddwl yn yr ail rownd.
Felly, sut mae eich gwybodaeth cyffredinol? Ym mha flwyddyn cafodd Owain Glyndŵr ei wneud yn Dywysog Cymru?
139 rhywbeth ...
(Yr ateb cywir yw 1400)
Cystadleuwyr Nadolig 2008
Y Cyflwynydd
Betsan Powys
Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.