Â鶹Éç

Alex Jones

Alex Jones

Pwnc arbenigol: Bywyd a gwaith Madonna

Yn enedigol o Rydaman, mae Alex Jones wedi bod yn cyflwyno ers naw mlynedd.

Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn theatr a ffilm o brifysgol Aberystwyth gan sefyll ei arholiadau yn Magaluf tra'n recordio sioe deledu gyda Davina McCall.

Roedd hi'n arfer bod yn fodel ac mae hi wedi bod yn wyneb adnabyddus ar S4C fel cyflwynydd Popty, Hip neu Sgip a Chwa!

Ym mis Medi 2008, aeth i Arizona gyda Shan Cothi, Steffan Rhodri ac eraill i ffilmio rhaglen realaeth o'r enw Saith Magnifico.

Holi Alex Jones

Sut aeth hi yn y stiwdio?

O'n i'n teimlo ofnadwy o nerfus drwy gydol y rhaglen, yn enwedig reit ar y cychwyn pan ddechreuodd y gerddoriaeth enwog a phan aeth y goleuadau i lawr.

Wedi dweud hynny, roedd y gynulleidfa yn ofnadwy o gefnogol ac yn helpu'r nerfau ychydig. Wrth edrych yn ôl ar y profiad o fod yn y stiwdio, er na alla i ddweud ei fod wedi bod yn brofiad pleserus, dwi'n falch ym mod i wedi cymryd rhan.

Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?

Y darn gwaethaf wrth reswm oedd eistedd yn y gadair ddu. Roedd hyd yn oed cyrraedd y gadair i'w weld yn her enfawr gan bod fy nghoesau fel jeli!

Roedd fy nghalon yn curo gymaint, o'n i'n meddwl base'r sŵn yn pigo lan ar fy meic! Wedi dweud hynny, rwy'n falch iawn fy mod i'n gallu dweud fy mod i wedi eistedd yng nghadair enwog Mastermind Cymru!

Oedd Betsan yn gwneud i chi deimlo'n nerfus?

Chwarae teg i Betsan, fe wnaeth hi drïo'i gorau i'n helpu ni i ymlacio cyn ac yn ystod y rhaglen. Mae ei ffrog hyfryd piws yn dal i sefyll yn y cof! Neis iawn!

Pam ddewisoch chi eich pwnc arbenigol?

Roedd e'n anodd iawn dewis pwnc arbenigol ar gyfer Mastermind Cymru. O'n i rhwng dau feddwl am sbel - Hitler (gan y mod i wedi'i astudio ar gyfer lefel A) neu Madonna.

Yn y diwedd benderfynais i ar Madonna. Dwi wedi bod yn ffan o'r frenhines bop ers pan o'n i'n blentyn ifanc iawn. Ei halbwm True Blue oedd yr albwm gynta' gefais i erioed pan o'n i'n bum mlwydd oed.

Dwi wedi bod i'w gweld hi'n perfformio'n fyw dair gwaith, a dwi wir yn credu mai Madge yw un o sêr mwya' ein hamser ni. Gan ei bod hi wedi troi'n hanner cant eleni ac wedi agor ei thaith ddiweddaraf, sef Sticky & Sweet, yng Nghaerdydd, o'n i'n meddwl y base hi'n gwneud pwnc arbenigol delfrydol.

Oeddech chi'n hapus efo eich perfformiad?

O ystyried fy mod i wedi dechre adolygu wrth hedfan yn ôl o'r Unol Daleithiau ar y diwrnod cyn recordio, o'n i'n hapus iawn gyda fy mherfformiad. Yn lwcus iawn, mae gennyf gof fel eliffant!

Sut mae eich gwybodaeth cyffredinol?

Baswn i'n dweud bod fy ngwybodaeth cyffredinol yn oce! Wrth wrando ar gwestiynau'r lleill, o'n i'n teimlo yn eitha' hapus gan y mod i'n gallu ateb sawl un ohonyn nhw, ond mae'n fater gwbl wahanol wrth geisio ateb cwestiynau o'r gadair ddu.

Felly, ym mha flwyddyn cafodd Owain Glyndŵr ei wneud yn Dywysog Cymru?

Fe goronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn 1404?

(Yr ateb cywir yw 1400)


Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

Y Gyfres

Cadair Mastermind

Y gadair ddu

Mae'r gadair ddu wedi bod yn seren y sioe gwis ers 1972.

Mastermind Plant

Plant yn stiwdio Mastermind

Plant peniog

Pwy yw sêr y gyfres i blant?

Cwis

Fedrwch chi ateb cwestiynau cyffredinol Mastermind Cymru?


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.