Cyhoeddodd yr Academi deitlau'r dair cyfrol ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007 yng Ng?yl y Gelli, ddydd Llun 28 Mai 2007
Cofiant a dwy nofel, ond dwy nofel wrthygyferbyniol iawn i'w gilydd - dyna ddewis y beirniaid, John Rowlands, Elinor Jones a Gwion Hallam, ar gyfer Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007
Y tri llyfr ar y rhestr fer yw:
Un Bywyd o Blith Nifer gan T. Robin Chapman (Gwasg Gomer)
Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones (Gwasg Gwynedd)
Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen (Y Lolfa)
Ceir manylion rhestr fer y llyfrau Saesneg fan hyn
Gwobrwyir £10,000 yr un i'r ddau enillydd - un Cymraeg ac un Saesneg - yn ogystal â £1,000 i'r pedwar a ddaw yn agos at y brig mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd nos Lun 9 Gorffennaf 2007.
Robin Chapman yn darllen detholiadau o "Un bywyd o Blith nifer"
Agoriad y gyfrol
Penyberth 1936
Tynged yr Iaith
Richard Elfyn yn darllen detholiadau o "Dygwyl Eneidiau"
Prolog
Llofruddiaeth y Ficer
Noson ddathlu dygwyl eneidiau
Dafydd James yn darllen detholiadau o "Ffydd Gobaith Cariad"
Dod o'r carchar
Y cinio Sul
Paddy
Tadcu