Mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Lun, Gorffennaf 9, cyhoeddwyd mai
Ffydd Gobaith Cariad yw Llyfr Cymraeg y Flwyddyn, 2007.
Yr awdur yw Llwyd Owen a ddywedodd y bydd yn defnyddio'r £10,000 o wobr i brynu 'camper van'!
Ond - fel y llynedd - llyfr arall a enillodd wobr y darllenwyr yn dilyn pleidlais a drefnwyd gan Â鶹Éç Radio Cymru; cofiant Saunders Lewis,
Un Bywyd o Blith Nifer gan Robin Chapman.
Wrth gyhoeddi'r wybodaeth am y brif wobr dywedodd Elinor Jones ar ran ei chyd feirniaid, John Rowlands a Gwion Hallam, nad oedd "cytundeb, ond mi oedd yna gonsensws" ymhlith y tri ohonynt.
Beiddgar a mentrusUn peth y mae cytundeb cyffredinol ynglÅ·n ag ef, fodd bynnag, yw bod Llwyd Owen yn un o sgrifenwyr mwyaf beiddgar a mentrus Cymru ar hyn o bryd - ond wedi dweud hynny hyd yn oed y mae'n gryn gamp i awdur mor ifanc gipio y wobr hon gydag ail nofel iddo ei chyhoeddi o fewn blwyddyn.
Wrth drafod ei waith ar Â鶹Éç Radio Cymru yn ddiweddar dywedodd
Catrin Beard ei bod hi yn rhagweld y bydd yn datblygu'n "nofelydd pwysig iawn."
Cymro Cymraeg enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Saesneg hefyd, Lloyd Jones gyda Mr Cassini a dyma'r llyfr a ddewiswyd trwy bleidlais gan wrandawyr Radio Wales hefyd.
Yn fab fferm o ardal Llangernyw mae Lloyd Jones yn byw yn Llanfairfechan ac ar gyfer y nofel uchelgeisiol a delweddol hon cerddodd ar draws Cymru saith gwaith mewn saith cyfeiriad gwahanol.
Yr oedd hynny yn dilyn taith o fil o filltiroedd ar hyd arfordir Cymru i'w helpu ddod tros broblem yfed ddifrifol.
O'r daith honno y deilliodd ei nofel gyntaf, Mr Vogel, sydd hefyd wedi ennill gwobr.
Mae'r teitl Mr Cassini yn chwarae ar y geiriau Mr cas i mi.
Kate Crockett o'r noson
Cliciwch i weld stori newyddion a lluniau.