Enw:
Gwen Pritchard Jones
Beth yw eich gwaith?
Hunan gyflogedig - unrhyw beth sy'n mynd 芒'm bryd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Faint o ofod sydd ar gael? Ysgrifenyddes, cogyddes, hyfforddwraig marchogaeth, gweini tu 么l i far, rhedeg stondin mewn marchnad, cynorthwywraig bersonol i 4ydd Arglwydd y Llynges, gweithio i'r 麻豆社 (Bangor a Chaerdydd), rheolwraig gyffredinol cwmni o siopau, golygydd gyda chwmni cyhoeddi, athrawes gynradd ayyb.
Dywedwch ychydig am eich llyfr sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn - beth wnaeth ichi ei sgrifennu?
Nofel gyffrous, ramantus, hanesyddol wedi ei lleoli yn Aberdaron ar drothwy'r Rhyfel Cartref (1641). Mae'n dilyn hanes Si么n Rhisiart sydd wedi dychwelyd i'w hen gartref i geisio profi pwy lofruddiodd yr hen ficer esgeulus, Griffith Piers, 16 mlynedd ynghynt. Ond mae'n syrthio mewn cariad 芒 Catrin Williams, dyweddi John Bodwrda ...
Dod ar draws ychydig o ffeithiau am Catrin Williams ysgogodd fy nychymyg i ysgrifennu'r nofel.
Beth, hyd yn hyn, fu uchafbwynt cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn i chi?
Cael gwybod fy mod ar y Rhestr Fer, sy'n golygu noson dda yng Nghaerdydd!
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Llyfrau plant: Robin Goch yn chwilio am D欧; Pori'r Pry Copyn; Achub Pori; Gelert, a chyfieithiadau eraill
A oes gennych lyfr/au eraill ar y gweill?
Oes.
O ble'r ydych chi'n dod?
Talysarn, Dyffryn Nantlle
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Pant Glas
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau Rupert
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf, ac yn dal i'w prynu bob Nadolig (i'r ferch .....?????)
Pwy yw eich hoff awdur?
Ew, methu penderfynu
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Wind in the Willows
Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry
Pa un yw eich hoff gerdd?
Llyn, gan M. McIntyre Huws
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Anodd iawn dweud - byddai'n haws dewis cwpled neu linellau o farddoniaeth
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ddim yn hoff o wylio teledu na mynd i'r sinema'n aml.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth - a pham?
Wn i ddim - mae'n gwestiwn rhy anodd i'w ateb yn bendant.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Heb ei fai, heb ei eni
Pa un yw eich hoff air?
'efallai'
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y gallu i chwarae offeryn cerdd
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Tawel, swil, meddylgar
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Oes, fy niffyg dawn i sgwrsio.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Victoria Drummond, y ferch gyntaf i weithio'i ffordd drwy brentisiaeth fel peiriannydd morwrol, a dod yn Brif Beiriannydd ar longau st锚m - a hynny yn y 1920au!
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Ga' i ateb y cwestiwn yna ar 么l gorffen fy nofel nesaf?
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Aristophanes - a gofyn iddo beth oedd ei wir gymhellion/deimladau wrth ysgrifennu Lysistrata
Pa un yw eich hoff daith a pham?
I fyny drwy Ddyffryn Nantlle a throsodd i Ryd Ddu, Llyn y Gadair a phentref Beddgelert. Dwyn i gof atgofion melys plentyndod - a'r cyfan wedi ei bortreadu mor ddelfrydol yn llyfrau Rupert!
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Amser te gyda chrempogau a llwyth o gacennau o bob math - ond breuddwyd yw'r cyfan gyda'r holl bwyslais ar fwyta'n iach, gwylio'r pwysau ayyb!
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded gyda'r cwn, canu, darllen, yfed gwin, bwyta
Pa un yw eich hoff liw?
Melyn
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf fyddai'n gallu cadw prisiau tai o fewn cyrraedd ein pobl ifanc
Os daw gwobr Llyfr y Flwyddyn i chi - sut byddwch chi'n gwario'r arian?
Ei fuddsoddi ar gyfer y dyfodol - a dydw i ddim yn dweud mewn beth!!