Â鶹Éç

Baner Glyndŵr

Baner Owain Glyndŵr

03 Chwefror 2010

Roedd gan ei arfbais ei hun, sef cynllun pedwar llew ar gefndir coch ac aur, yn ystod ei wrthryfel deng mlynedd yn erbyn y Saeson yn y 15fed ganrif.

Byddai'r arfbais wedi ymddangos ar faneri ac hefyd ar darianau.

Mae rhai yn cymysgu baner Glyndŵr gydag arfbais hŷn Teyrnas Gwynedd, oedd hefyd yn cynnwys pedwar llew ar gefndir coch ac aur. Hwn oedd arfbais bersonol Llywelyn Fawr.

Arfbais pedwar llew ar gefndir coch ac aur
Arfbais Tywysogaeth Gwynedd

Ond mae gwahaniaeth yn y ddwy arfbais. Mae llewod tywysogion Gwynedd ar osgo sy'n cael ei alw mewn herodraeth yn 'passant gardant' (yn cerdded gydag un bawen oddi ar y llawr a'r wyneb wedi ei droi tuag atom) tra mae llewod Glyndŵr yn 'rampant' (un neu ddwy goes ar y llawr ac un bawen yn barod i daro).

Mae'n bosib felly mai cyfuniad o arfbais Powys Fadog a'r Deheubarth yw cynllun Glyndŵr gan ei fod yn hanu o deulu brenhinol Powys ar ochr ei dad (Gruffudd Fychan II, Arglwydd Glyndyfrdwy) a'r Deheubarth ar ochr ei fam (Elin, o dras yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd o deyrnas y Deheubarth). Arfbais Powys Fadog oedd llew coch ('rampant') ar gefndir aur tra bod arfbais Deheuebarth yn dangos llew aur ('rampant') ar gefndir coch.

Er hyn, mae'n bosib fod Glyndŵr wedi dewis cynllun oedd yn ymdebygu i nod tywysogion Gwynedd, sef arweinwyr cynhenid olaf Cymru, a thrwy wneud ei lewod yn rhai ymosodol, ei fod yn gwneud datganiad clir i frenin Lloegr.

Yn y blynyddoedd diweddar mae'r faner wedi ei hadfywio fel symbol o hunaniaeth Gymreig gyda rhai sefydliadau yn chwifio'r faner ar Ddydd Owain Glyndŵr, sef Medi 16 - y diwrnod yn 1400 pan y'i cyhoeddwyd yn 'Dywysog Cymru'. Mae'n cael ei chwifio mewn digwyddiadau cenedlaethol diwylliannol ac ym maes chwaraeon.

Dywedir fod Glyndŵr yn cario baner draig aur ar gefndir gwyn i faes y gad.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.