Â鶹Éç

Y Delyn Deires

top
Hawlfraint NGFL Cymru

gan Huw Roberts

Y delyn deires yw gwir etifedd cerddoriaeth werin Cymru, ac nid y delyn bedal.

Telyn fach, un rhes, oedd y delyn gynnar - ond yna daeth y delyn ddwyres, ac yna teires o'r Eidal. Wrth iddi ddod yn boblogaidd ymysg hen delynwyr Cymreig y llys, datblygodd i fod yn offeryn tal, fel heddiw. Roedd Llanrwst yn arbennig yn lle enwog am adeiladu telynau yn y Canol Oesoedd.

O'r delyn deires datblygodd y delyn pedalau, gyda'r fecanyddiaeth i newid cyweirnod heb yr angen am res ychwanegol o dannau.

Mae gan delyn deries dair rhes o dannau - wrth gwrs! Mae'r ddwy allanol yn gyfochrog a wastad wedi eu tiwnio i'r un cyweirnod. Mae'n bosib chwarae atsain ar y ddwy res felly, sy'n amhosib ar y delyn fodern.

Y nodau siarp a fflat sydd yn y rhes canol, fel y nodau duon ar y piano. Mae'n rhaid gwibio'r bysedd i mewn ag allan i chwarae'r rhes ganol sy'n dipyn o gamp!

Yn draddodiadol, caiff y delyn deires ei chanu ar yr ysgwydd chwith. Os feddyliwch am y peth, y llaw chwith sy'n canu'r alaw ar y gitâr, y ffidil a'r soddgrwth. Y traddodiad Ewropeaidd yw canu'r delyn ar yr ysgwydd dde, efallai oherwydd mai'r llaw dde sy'n chwarae'r alaw ar y piano.

Fe wnaeth y Cymry a'r Gwyddelod gadw at y ffordd naturiol a thraddodiadol o ganu'r offeryn a daeth y delyn deires yn symbol o Gymru.

Ond gydag amser daeth y delyn a'r ffidil, sef offerynnau'r werin, o dan fygythiad gan y mudiad Methodistaidd ond parhaodd rhai â'r traddodiad, fel telynwyr Llanerchymedd er enghraifft.

Fe gafodd effaith y diwygiad Methodistaidd ddylanwad mawr yn ddi-os. Mi wnaeth ladd y traddodiad gwerin, digwyddiadau fel gwyliau mabsant, twmpathau dawns ac yn y blaen. Mae cofnod o Thomas Charles yn brolio ei fod wedi dod â'r arfer o ganu'r Delyn Deires i ben yn y Bala - roedd y delyn yn cael ei hystyried yn offeryn y dafarn erbyn hynny.

Dysgais chwarae'r delyn deires gan Llio Rhydderch, a gafodd ei dysgu gan Brif Delynores Cymru, Nansi Richards, ei hun. Dysgodd Nansi Llio i chwarae ar yr ysgwydd dde gan iddi hithau cael gymaint o feirniadaeth yn y coleg yn Llundain am feiddio chwarae ar y chwith!

Mae'r delyn deires yn swnio'n wahanol gan ei bod yn ysgafnach, gyda dim ond tannau coludd. Rydyn ni'n taro, yn lle tynnu'r tannau. Mae'n rhaid i delyn bedalau wneud tipyn mwy o sŵn i gystadlu yn erbyn gweddill y gerddorfa. Felly mae'r tannau'n rhai trwchus o ganlyniad.

Y delyn deires yw telyn draddodiadol Cymru. Nid telynau mawr sy'n chwarae cerddoriaeth glasurol, Ewropeaidd yw'r traddodiad Cymreig ond y delyn deires a cherddoriaeth y werin. Fe fyddech chi'n disgwyl i ffidlwr o Iwerddon chwarae alawon gwerin, nid Vivaldi!

Yn anffodus daeth rhai Cymry i weld y delyn deires yn hen ffasiwn, ond dwi'n sicr fod 'na adfywiad ar y ffordd i wir delyn Cymru.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar Â鶹Éç Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.