Cymru a'r bêl hirgron: y 1970au a thu hwnt
topO'r Cnapan i Oes Aur y saithdegau a thu hwnt; ail ran erthygl Wyn Gruffydd am hanes y bêl hirgron yng Nghymru.
Gan Wyn Gruffydd
Coron Driphlyg 1969 osododd y seiliau ar gyfer Camp Lawn 1971 ac Oes Aur y Saithdegau. Fe fydd sôn am dîm Cymru'r 70au tra bydd y bêl hirgron.
Y tîm gorau erioed i wisgo amdanynt y Crys Coch ym marn y mwyafrif ac unwaith eto roedd rygbi Cymru ar ben y byd fel y profwyd yn ddiweddarach y flwyddyn honno gyda dim llai na 11 o'u plith yn aelodau o garfan y Llewod a drechodd Seland Newydd ar eu tomen eu hunain am y tro cyntaf erioed, a hynny dan arweiniad eu hyfforddwr a hyfforddwr Llanelli, .
At Gamp Lawn 1971, fe ychwanegwyd dwy arall ym 1976 a 1978, a Choronau Triphlyg ym 1971, 1976, 1977, 1978 a 1979 ac oni bai i'r gêm yn Nulyn yn erbyn y Gwyddelod gael ei chanslo ym 1972, mi allwn ni fod yn edrych yn ôl ar Gamp Lawn arall gyda Chymru yn ddiguro yn y gemau eraill.
Heb os un o gemau mwyaf cofiadwy'r cyfnod oedd honno i ddathlu hanner canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru ar y 26ain Ebrill 1972 pan ddaeth 40,000 o bobl i'r stadiwm genedlaethol yng Nghaerdydd er mwyn gweld tîm Barry John yn chwarae yn erbyn tîm Carwyn James mewn gêm gyfeillgar i godi arian i Urdd Gobaith Cymru yn 1972. Ar y pryd doedd neb yn gwybod mai dyma fyddai gêm ola'r 'Brenin' Barry.
Y bwriad oedd cynnal y gêm ym Mharc yr Arfau ond ar ôl gwerthu dros 10,000 o docynnau, fe ofynnwyd i Undeb Rygbi Cymru a fyddai modd defnyddio'r stadiwm oedd yn cael ei adeiladu'r drws nesaf. Roedd hi'n gêm nodedig gan fod y cyfan yn Gymraeg - y rhaglenni, y tocynnau, a'r cyhoeddiadau. Roedd y chwaraewyr yn barod iawn i fod yn rhan o'r achlysur, hyd yn oed y rheiny o Loegr ac Iwerddon oedd yn nhîm Carwyn James.
Y Brenin Barry
Yn Seland Newydd derbyniodd Barry John y glasenw 'Y Brenin', ond nid oedd yn gyfforddus â'r enwogrwydd a ddaeth yn sgil ei allu ar y cae ac ymddeolodd yn dilyn gêm yr Urdd, ac yntau'n ddim ond 27 oed.
Fel Shane Williams yn fwy diweddar, sgoriodd Barry John gais ar ddiwedd ei gêm olaf, ond ychydig oedd yn gwybod bryd hynny mai'r ymddangosiad hwnnw yng nghrys yr Urdd fyddai ei gêm rygbi olaf.
Mae ei bartneriaeth efo , a ddyfarnwyd yn answyddogol yn 'chwaraewr y ganrif', yn rhan o chwedloniaeth y gêm bellach. Teithiodd chwe Chymro gyda'r Llewod i Dde Affrica ym 1974 a dychwelyd yn fuddugoliaethus.
O hyn tan ddiwedd y ddegawd fe ddeuai chwaraewyr megis Phil Bennett, Geoff Wheel, Allan Martin, rheng flaen chwedlonol Pont-y-pŵl - Charlie Faulkner, Bobby Windsor and Graham Price - ynghyd â JJ Williams, a Steve Fenwick yn ffefrynnau gan y cefnogwyr.
Yn nhymor 1980-81 fe ddathlodd Undeb Rygbi Cymru'r canmlwyddiant, ac mewn cam pwysig yn hanes y gêm fe gynhaliwyd pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd am y tro cyntaf ym 1987 pan orffennodd Cymru'n drydydd dan gapteniaeth Richard Moriarty ar ôl trechu Awstralia yn Rotorua.
Daeth i sylw'r byd cyn iddo ddadrithio gyda chyflwr y gêm ar ac oddi ar y cae yn dilyn dwy gosfa gan y Crysau Duon yn Seland Newydd a cholled arall yn erbyn Rwmania. Trodd Davies ei olygon at Rygbi'r Cynghrair, ond nid cyn iddo helpu Cymru at Goron Driphlyg ym 1988 gyda help chwaraewr dawnus megis Robert Jones, , Mark Ring, Adrian Hadley a Robert Norster.
Troi'n broffesiynol
Trodd y gêm o fod yn gêm amatur i fod yn gêm broffesiynol yn y Nawdegau pan gyhoeddodd Vernon Pugh, Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, ar y 26ain o Awst 1995 ym Mharis y byddai'r gêm yn 'agored' o'r diwrnod hwnnw ymlaen. Does dim dwywaith fod Pugh, mab i löwr o Ddyffryn Amman a chyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru gyda'r meddylwyr mwyaf praff yng nghoridorau grym y gêm cyn ei farw yn 57 oed yn 2003.
Ar y cae, daeth y chwaraewr cyntaf i gyrraedd 1,000 o bwyntiau ar y llwyfan rhyngwladol, ac ar gost o dros £120 miliwn fe drowyd y Stadiwm Genedlaethol ar hen Barc yr Arfau a fu'n gartref i'r gêm ryngwladol am 113 o flynyddoedd - yn llythrennol drwy naw deg gradd - i Stadiwm y Mileniwm mewn pryd i gyfarch Cwpan Rygbi'r Byd ym 1999.
Ar y maes newydd fe drechodd Cymru'r Springboks a chafodd Mark Taylor ei hunan yn y llyfrau hanes wrth groesi am y cais cyntaf a chyn i'r to gael ei osod ar gartref newydd ysblennydd y gêm.
Yn 2003 ac ar ôl llawer o ddadlau a thrafod sefydlwyd pum rhanbarth rygbi, sef Scarlets Llanelli, Gweilch Tawe-Nedd, y Rhyfelwyr Celtaidd, Gleision Caerdydd a Dreigiau Gwent, ond erbyn y flwyddyn ganlynol aeth y Rhyfelwyr i drafferthion ariannol ac ailddiffiniwyd y dalgylchoedd i adael y Scarlets, y Gweilch, Gleision Caerdydd a Dreigiau Casnewydd Gwent. Buan y gwelwyd manteision yr ailstrwythuro ar y llwyfan rhyngwladol gyda'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 1978 yn dod yn 2005. Dilynwyd hyn gyda Champ Lawn arall yn 2008 ac un arall eto yn 2012, ac mae'r Gweilch wedi ennill y Cynghrair Celtaidd a elwir bellach yn gynhrair Rabo-Direct PRO 12 bedair o weithiau.
Mae tri chwaraewr, Gareth Thomas, Stephen Jones a Martyn Williams wedi cyrraedd cant neu fwy o gemau tros eu gwlad a dyfarnwyd , prif sgoriwr ceisiau Cymru erioed, yn Chwaraewr gorau'r byd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 2008.
Enillodd carfan Saith Bob Ochr Cymru Gwpan Melrose ym Mhencampwriaeth y Byd yn Dubai yn 2009 a than gapteniaeth Sam Warburton daeth y tîm cenedlaethol yn bedwerydd yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd yn 2012, y canlyniad gorau i Gymru ers 1987. Ac am y drydedd gwaith mewn saith tymor fe gododd Warburton dlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a dathlu'r Gamp Lawn yn union fel y gwnaeth Gareth Thomas a Michael Owen yn 2003 a Ryan Jones o'i flaen yn 2005.
Gan Wyn Gruffydd, 2012