麻豆社

Robin McBryde

Robin McBryde

Bachwr i d卯mau rygbi Scarlets Llanelli a Chymru cyn ymddeol yn 2005. Dyma un o'r ychydig ogleddwyr sydd wedi llwyddo fel chwaraewr rygbi proffesiynol.

Mab M么n

Ganwyd Robin Currie McBryde ar Orffennaf 3 1970 a magwyd ef yn Llanfechell, Ynys M么n, ac fe ddechreuodd chwarae rygbi yn ifanc iawn. Bu'n chwarae i d卯m Porthaethwy, yr Wyddgrug a th卯m gogledd Cymru cyn mentro i'r de ac ymuno ag Abertawe.

Ar 么l symud i Lanelli, fe arweiniodd y t卯m i fuddugoliaeth yng Nghwpan 1998 ac yna yng Nghynghrair Cymru yn 1999 fel aelod allweddol o'r garfan.

Enillodd ei gap cyntaf dros ei wlad yn y g锚m yn erbyn Fiji ar daith 1994. Ar 么l cyfnod yn Nh卯m A Cymru, dychwelodd i'r prif d卯m yn 2000 ac fe gafodd ei alw i sgwad y Llewod ar gyfer taith i Awstralia yn 2001.

Cafodd Robin ei enwi yn un o bedwar capten Cymru yn y daith i Dde Affrica yn 2003 ac yn fachwr dros d卯m ei wlad a roddodd gymaint o fraw i Loegr a'r Crysau Duon ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn Awstralia 2003.

Ymddeol o'r Cae

Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, daeth yn o'r gogleddwyr prin sydd wedi bod yn aelod o d卯m buddugol y Gamp Lawn.

Ond, wedi cael llawdriniaeth i'w gefn yn 2005, ei flwyddyn dysteb ar Barc y Strade, cafodd ei orfodi i ymddeol o'r gamp oherwydd yr anaf, ar 么l ennill 37 cap i Gymru.

Mae'n parhau i gymryd rhan flaenllaw mewn rygbi rhanbarthol a chenedlaethol fel hyfforddwr.

Ffeithiau:

Safle: Bachwr

Clybiau: Porthaethwy, Yr Wyddgrug, Abertawe, Llanelli (capten 1997-99), Sgarlets

Capiau: 37

Cap cyntaf: Fiji, 18-06-94

Cap olaf: Iwerddon 19-03-05

Taith y Llewod: Awstralia 2001 (dim cap)

Fis Tachwedd 2006, cyhoeddodd Robin ei hunangofiant, Y Cymro Cryfa (Lolfa 拢9.95), sy'n datgelu rhai o uchafbwyntiau ei yrfa rygbi yn ogystal 芒 s么n yn onest am rai o'r isafbwyntiau er gwaetha'r teitl sy'n hunan-gamnoladwy ar yr olwg gyntaf.

Wedi marwolaeth Ray Gravell yn 2007, cyhoeddwyd mai Robin fyddai'n cario'r cleddyf adeg seremon茂au'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 wedi iddo gamu i mewn fel Ceidwad y Cledd dros dro yn ystod salwch Grav.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 麻豆社 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.