Dyma chwaraewr rygbi o fri sydd wedi ennill 72 o gapiau dros Gymru a sgorio 33 o geisiadau.
Yr Atom Cryf
Ganwyd Ieuan Evans ar Fawrth 24 1964 yn Nherforus Abertawe. Cafodd ei addysg yn Ysgol gynradd Idole ac Ysgol y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin. Pan oedd yn yr ysgol gynradd, yr 'atom cryf' oedd ei lysenw gan ei fod yn fach ond ofn dim.
Symudodd teulu Ieuan o Abertawe i Gwmffrwd yn sir Gaerfyrddin pan oedd o'n ifanc iawn. Yn yr Ysgol Gynradd y dechreuodd chwarae pêl-droed a theithio i Langynnwr i chwarae rygbi.
Ar ôl symud i Ysgol y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin, dewiswyd ef yn gapten y tîm dan ddeuddeg ac erbyn 17 oedd roedd Ieuan wedi ymuno ag adran ieuenctid Quins Caerfyrddin.
Dwy flynedd yn ddiweddarach, gwireddwyd breuddwyd Ieuan o chwarae dros Llanelli ac yn y Strade y cafodd e gyfle i ddatblygu'r sgiliau ar nodweddion hynny i fod yn chwaraewr o'r radd flaenaf.
Y Sosban a Salford
Roedd cyfuno chwarae i dîm y Sosban ac astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Salford yn ddigon anodd ond ar ôl cwblhau ei radd, fe ddaeth yn ôl i Gymru gan fwynhau llwyddiant y clwb yn llawn.
Fe chwaraeodd mewn saith gêm derfynol i Lanelli ac ennill pump ohonynt.
Yn ystod 1980au fe chwaraeodd yn y gêmau traddodiadol doli glwt olaf sef y gêmau ffyrnig hynny rhwng Caerfaddon a Llanelli ac yn Chwefror 1987 fe ymddangosodd am y tro cyntaf yng nghrys coch Cymru yn erbyn Ffrainc. Ymddangosodd am y tro olaf dros ei wlad 11 mlynedd yn ddiweddarach ar 7 Chwefror 1998 yn erbyn yr Eidal.
Yn ystod ei yrfa ryngwladol fe enillodd 72 o gapiau dros Gymru ac ar 28 o'r adegau hynny ef oedd y capten.
Sgoriodd 33 o geisiadau dros Gymru ac efallai mai ei gais enwocaf oedd yr un yn y gêm yn erbyn Lloegr pan enillodd Cymru o 10 cais i 9.
Mae Ieuan wedi chwarae ymhob un o gwpanau'r byd, wedi ymddangos saith gwaith dros y Llewod ac mae'n aelod o'r criw dethol hwnnw sydd wedi chwarae drostynt yn Awstralia yn 1989, Seland Newydd 1993 a De Affrig 1997. Ar y daith yn Ne Affrig fe sgoriodd gyfanswm o 3 cais.
Cawr y Ceisiadau
Yn 1993 sgoriodd Evans y nifer uchaf o geisiadau sef 4 yn erbyn Seland Newydd. Ond yn anffodus byr fu ei daith i Dde Affrig gan iddo gael ei anafu.
Pan oedd Evans yn chwarae i Lanelli fe enillodd bob anrhydedd ac felly yn 1997 wrth chwilio am her newydd fe aeth dros y ffin a chwarae i Gaerfaddon. Roedd o'n aelod o'r tîm a enillodd gwpan Heineken yn 1998. Yna cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi.
Mae'n briod efo tri o blant ac yn rhedeg ei gwmni cysylltiadau cyhoeddus ei hun, yn ddarlledwr ac yn byw yn y Bont Faen.