Y Cyfnod Olaf
20 Ebrill 2009
Wedi i'r goresgyniad ddod i ben, yn swyddogol megis, gyda Statud Rhuddlan yn 1284, daliai rhai o gestyll y Mers a siroedd y Dywysogaeth (Môn, Caernarfon, Meirionnydd, Ceredigion, Caerfyrddin) yn eu bri.
Ychwanegwyd amddiffyniadau at rai ohonynt; gwnaethpwyd rhai yn lleoedd mwy cyfforddus i drigo ynddynt. Codwyd Rhaglan, un o'r cestyll mwyaf rhwysgfawr, yn newydd sbon.
Dioddefodd nifer ohonynt yn enbyd ar law milwyr Madog ap Llywelyn yn 1294-95 a dilynwyr Owain Glyndŵr rhwng 1400-09. Daeth rhywfaint o helynt eto yn ystod Rhyfelodd y Rhos yn y 15fed ganrif. Ond erbyn diwedd y Rhyfeloedd Cartref roedd gogoniant oes y cestyll wedi hen bylu.
Daliai dyrnaid ohonynt yn gyfannedd - Y Waun, Pictwn, Castell Powys, Caerdydd yn eu plith - ond roedd oes y plas wedi dod i Gymru. Nid oedd y cestyll bellach ond yn destun i arlunwyr a beirdd. Meddai Taliesin o Eifion am gastell Dinas Brân:
Englyn a thelyn a thant - a'r gwleddoedd br>
Arglwyddawl ddarfuant; br>
Lle bu bonedd Gwynedd gant br>
Adar nos a deyrnasant.