Castell Cydweli
04 Mawrth 2009
Cafodd y castell cyntaf, sef cylchwaith clawdd a ffos gydag adeiladau o goed, ei godi ar safle amlwg wrth aber afon Gwendraeth Fach yn nechrau'r 12fed ganrif, yn fuan wedi i'r brenin Harri I roi tiroedd yr ardal i'r Esgob Roger o Gaersallog (Salisbury).
Mae'r safle'n hawdd i'w amddiffyn, ac yr oedd modd i gychod ddod i fyny'r afon i'r castell petai angen cymorth o'r tu allan. Sefydlwyd priordy a thyfodd bwrdeistref.
Pan fu farw Harri I yn 1136, bu cyfnod o ryfel cartref yn Lloegr oherwydd problem yr olyniaeth i goron Llundain. Rhoes hynny gyfle i'r tywysogion Cymreig adennill tir oddi ar y Normaniaid, a thorrodd gwrthryfel allan ar draws Cymru. Yn y Deheubarth dymunai Gruffudd ap Rhys adennill safle ei dad Rhys ap Tewdwr fel brenin Deheubarth, ac aeth i Wynedd i ofyn am gymorth gan gan ei dad-yng-nghyfraith, Gruffydd ap Cynan.
Yn ystod absenoldeb Gruffudd yng Ngwynedd, cymerodd ei wraig Gwenllian, merch Gruffudd ap Cynan, yr awenau yn y Deheubarth. Yn y gobaith o yrru'r Eingl-Normaniaid o fro Cydweli, arweiniodd fyddin yn eu erbyn gyda chymorth ei meibion hynaf, Morgan a Maelgwn.
Ar faes nepell o'r castell, collodd y Cymry'r frwydr yn erbyn llu sylweddol yr Eingl-Normaniaid dan arweiniaid Maurice de Londres. Lladdwyd Gwenllian a Morgan, a charcharwyd Maelgwn. Erys yr enw Maes Gwenllian ar ran o'r tir i'r gogledd o'r castell.
Wedi marwolaeth Gwenllian roedd arglwyddiaeth Cydweli yn ddiogel yn nwylo Maurice de Londres a'i ddisgynyddion nes i rym newydd godi yn y De-Orllewin, sef Rhys ap Gruffudd, plentyn olaf Gwenllian a Gruffudd ap Rhys. Cafodd Rhys yrfa gythryblus fel dyn ifanc cyn dod i delerau â'r frenin Harri II yn 1158, er na rwystrodd hynny ef rhag wrthryfela yn erbyn Harri yn 1164.
Llwyddodd Rhys i feddiannu llawer o gestyll y de-orllewin, ac yn ôl Brut y Tywysogion, cododd gastell Cydweli yn 1190, ond ni wyddys yn union beth a wnaeth yno. Yn ôl yn nwylo'r Saeson erbyn 1201, dechreuwyd ar y gwaith o drawsnewid y castell ond nid hawdd dyddio pob datblygiad.
Yn 1215 bu Llywelyn Fawr yn rhyfela ar draws de-orllewin Cymru, a gyrrodd Rhys Gryg, mab Rhys ap Gruffudd, i gipio a llosgi Cydweli. Cadwodd ei afael arno nes i Lywelyn fynnu iddo ildio'r safle i Hawise de Londres. Roedd hyn yn rhan o gytundeb Caerwrangon rhwng Llywelyn a Harri III yn 1218, pan ganiatawyd i Lywelyn gadw perchnogaeth o weddill ei lwyddiannau yn y De.
Er i Llywelyn ddangos ewyllys da drwy ddychwelyd rhai o'r cestyll yn ôl i'r Normaniaid, carcharwyd a dienyddwyd rhai o'i ddynion gan filwyr Trefaldwyn yn 1231, ac fe wnaeth Llywelyn ddial am hyn drwy losgi cestyll Trefaldwyn, Brycheiniog a Powys ymysg eraill, cyn troi tua'r gorllewin a difrodi cestyll Nedd a Chydweli.
Wedi hynny cafodd Cydweli lonydd gan y Cymry am flynyddoedd maith, a dyma gyfnod llunio'r castell ar ei wedd bresennol gan feibion Hawise de Londres, sef Pain a Patrick Chaworth. Erbyn 1400 roedd yn eiddo'r brenin newydd, Harri IV, ac yn un o brif gestyll De Cymru.
Yn ddiweddarach yn ei hanes, bu'n castell dan warchae aflwyddiannus yn 1403 gan Henry Dwn, Cymro lleol blaenllaw a chefnogwr Owain Glyndŵr, gyda chymorth milwyr o Ffrainc a Llydaw, oedd wedi cipio'r dref. Daeth y gwarchae i ben ar ôl oddeutu tair wythnos, pan gyrhaeddodd byddin o Loegr i roi cymorth. Difrodwyd y porthdy yn sylweddol yn ystod y gwarchae, ac fe'i ail-adeiladwyd ar orchymyn Harri V, ond yn raddol fe gollodd ei bwysigrwydd, ac ni fu iddo ran yn Rhyfeloedd Cartref 1642-51.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.