麻豆社

Hanes Bangor a'r Felinheli (parhad)

top
Hen Goleg

Parhad o hanes twf y ddinas a dalgylch papur bro y Goriad.

'Dinas Dysg', dyna'r geiriau ar arwyddion yn wynebu teithwyr wrth iddynt ddynesu at Fangor! Sefydlwyd Ysgol Ramadeg Friars mor gynnar ag 1557; ail-leolwyd hi, cyn iddi ddod rai blynyddoedd yn 么l yn rhan o ysgol gyfun ar safle arall. Friars yw'r enw arni hi.

Agorodd y Coleg Normal yn 1858 i addysgu a hyfforddi athrawon - mewn festri capel i ddechrau cyn symud yn 1862 i adeiladau newydd ym Mangor Uchaf, ychwanegwyd atynt yn 1911. Prynwyd hen westy y George and Dragon yng ngolwg Pont Menai yn 1919 a'i addasu'n hostel i ddynion, ac yn 1950 daeth cyn-breswylfa Esgob Bangor wrth ymyl, yn eiddo i'r Coleg.

Yn y 1960au adeiladwyd yn helaeth ar y safle hwn ar lannau Menai. Bellach mae'r Coleg Normal a'i holl adeiladau yn rhan o Brifysgol Bangor. Dyna yn ogystal dynged Coleg Mair, coleg yr eglwys i hyfforddi merched i fod yn athrawon a symudodd o Gaernarfon i Fangor yn 1893. Fflatiau bellach yw Bala - Bangor a fu'n goleg diwinyddol yr Annibynwyr am dros ganrif, er bod y Coleg Gwyn y drws nesaf yn dal i gynnig hyfforddiant i bregethwyr.

Prifysgol BangorAr y llaw dde wrth ddringo ar y ffordd fawr o Fangor i gyfeiriad y dwyrain mae boncyn gwyrddlas ac arno borth, tebyg i adfail hen deml, a adawyd i nodi safle gwesty moethus, y Penrhyn Arms, yn dyddio'n 么l i ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Yn 1884 addaswyd y gwesty yn gartref dros dro i Goleg y Brifysgol. Roedd Wrecsam a Chaernarfon yn gystadleuwyr arbennig o beryglus ym mrwydr lleoliad y Coleg newydd, a phan gyhoeddwyd yn Awst 1883 mai Bangor oedd y dewis bu dathlu mawr yn y dref a dderbyniodd wythnos yn gynt siartr i'w gwneud yn fwrdeisdref.

Ail-leolwyd y Coleg yn 1911. Rhodd gan Gyngor Bangor oedd y safle ym Mangor Uchaf, a darbwyllwyd Thomas Hare, y pensaer, i newid ei gynllun gwreiddiol ac addasu'r adeilad i'r tirlun yn hytrach na cheisio lefelu'r tir. Dau lawr sydd i'r adeilad yn amgau'r rhan sy'n edrych dros y ddinas yn codi'n bedwar llawr.

Gyda'r blynyddoedd, chwyddodd nifer y myfyrwyr i dros wyth mil, ac mae'r adeiladau hen a newydd ar wasgar trwy'r ddinas a thu hwnt. Prifysgol Bangor yw'r teitl bellach. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion nodedig yn gysylltiedig 芒'r Brifysgol. John Morris-Jones oedd Athro cyntaf Adran y Gymraeg, ac fe'i dilynwyd gan Ifor Williams, Thomas Parry, Caerwyn Williams, Melville Richards, Bedwyr Lewis Jones, Gwyn Thomas - y bardd sy'n dal i fyw ym Mangor - a'r Athro presennol, Branwen Jarvis. Bu R.T.Jenkins yn Athro Hanes yno a Thomas Richards yn Llyfrgellydd.

Claddwyd amryw o w欧r enwog y ddinas ym mynwent Glanadda, yn eu plith Ambrose Bebb, Isalaw y cerddor y mae cofeb iddo yn Hirael, Isambard Owen, Thomas Rees a Llew Tegid; ac ym mynwent yr Amlosgfa mae carreg fedd Alun Llywelyn-Williams, Dyfnallt Morgan ac R.Tudur Jones. Mae tri phrifardd yn byw yn y ddinas yn awr, sef John Gwilym Jones, Llion Jones a Gerwyn Williams, a dau arall yn cartrefu mewn pentrefi gerllaw, James Nicholas ac Iwan Llwyd.

Ehangu'r porthladd

'Aber Pwll' neu 'Melin Heli' yw'r enw ar fap Ordnans 1818-23 ar y gilfach ar lannau Menai rhwng Bangor a Chaernarfon. Cafodd ei datblygu'n borthladd prysur yn allforio llechi o Chwarel Dinorwig ar y llethrau uwchlaw Llyn Padarn yn ardal Llanberis a'i alw, ynghyd 芒'r pentref gerllaw, yn Port Dinorwic.

Cychod yn y Felinheli heddiwAdeiladwyd tramffordd i gysylltu'r chwarel 芒'r porthladd yn 1824, a rheilffordd, gydag 'inclen' i lawr y llechwedd serth yn arwain at y cei yn 1843. Ehangwyd y porthladd yn 1829 ac eto yng nghanol y ganrif. Cynyddodd yr allforion gan gyrraedd eu hanterth yn 1899. Gostyngodd y fasnach wedi hynny oherwydd dirywiad y diwydiant llechi a chystadleuaeth y rheilffyrdd, er y gallai'r porthladd fod yn llawn o longau ar adegau prysur yn y 1930au. A daeth Port Dinorwic yn Y Felinheli unwaith eto.

Mae'r cychod hwylio a'r marina gyda'i ystad o dai yn dangos bod defnydd newydd yn cael ei wneud o'r cei a'r harbwr; a'r ardal breswyl ar y llechwedd uwchlaw'r m么r yn awgrymu bod pobl broffesiynol wedi eu denu i fyw yn y pentref. A phentref noswyl yn anad dim yw'r Felinheli erbyn hyn. Tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd o leiaf deunaw o siopau ar y stryd fawr; heddiw un neu ddwy yn unig sydd. Ac wedi agor y ffordd osgoi yn 1994, mae'r stryd yn llawer llai prysur.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.