Datblygiad Bae Colwyn: Gwestai a'r Pier
topMae Eunice Roberts yn gyd awdur dwy gyfrol o hen luniau Bae Colwyn 'The Spirit of Colwyn Bay.' Yma mae'n sôn am hanes a datblygiad y dref.
Mae gwreiddiau datblygiad a thyfiant tref Bae Colwyn fel yr ydym yn ei adnabod heddiw ynghlwm â gwerthiant stad y Foneddiges Erskine, sef Stad Pwllycrochan, yn 1865. Gwerthwyd Plasty Pwllycrochan ac fe'i hagorwyd fel gwesty ac fe werthwyd tir y stad yn barseli i ateb y galw cynyddol am gartrefi ar hyd yr arfordir.
Roedd y rheilffordd wedi cyrraedd Colwyn - sef Hen Golwyn - yn 1849. Cafodd y Foneddiges Erskine ei stop ei hun - Pwllycrochan Halt - am ganiatau i'r rheilffordd groesi ei thir.
Yn wreiddiol yn ymyl safle Coleg Penrhos cafodd y safle ei symud i'r lleoliad presennol a'i ddatblygu fel gorsaf rheilffordd y dref. Credir mai o gwmpas 1872 y defnyddiwyd yr enw Bae Colwyn gyntaf a hynny fel enw'r orsaf. Tyllwyd llawer iawn o'r pridd yr oedd ei angen i adeiladu arglawdd y rheilffordd o'r ardal lle mae Canolfan Siopa Bay View yn sefyll heddiw.
Ond mae'r ardal yn cael ei gofio gan lawer ohonom fel cartref ffair Pat Collins, yr orsaf ambiwlans a'r iard nwyddau.
Dechreuwyd y gwaith o adeiladu'r promenâd o Hen Golwyn i Llandrillo-yn-Rhos yn 1872 ac fe barhaodd y gwaith ymhell i'r 20fed ganrif gynnar wrth i'r gwaith gael ei wneud fesul cam.
Tyfodd y dref yn sydyn iawn. Agorwyd Gwesty Bae Colwyn, oedd â 92 llofft, yn 1871. Hon oedd y gwesty gwreiddiol i gael ei galw'n Westy Bae Colwyn ac mi safai ym mhen Ffordd Marine wrth ymyl y môr. Mae fflatiau Princess Court ar y safle bellach.
Yn y dyddiau cynnar byddai gwesteion y gwesty yn cael eu cyfarch yn yr orsaf rheilffordd gan staff mewn cotiau coch a glas. Bu amryw o westeion amlwg yn aros yno dros y blynyddoedd, yn eu plith Adelina Patti, David Lloyd George a Cary Grant. Caewyd y gwesty yn 1973.
Agorwyd y pier 360 llath o hyd a'r pafiliwn allai dderbyn cynulleidfa o 2,400 yn Fehefin, 1900 gyda chyngerdd gan yr enwog "Frenhines y Gân" Adelina Patti. Roedd ei ymweliad â Bae Colwyn yn ddigwyddiad pwysig iawn i'r dref a nodwyd gan y carped coch yn yr orsaf pan gamodd oddi ar y trên. Arweiniwyd cerddorfa'r pier gan Jules Riviere. Dinistriwyd y pafiliwn gan dan yn 1922 ond fe achubwyd y pier ei hun.
Wedi agor y pafiliwn newydd, gyda lle i 1,500 o bobl, yn 1923 fe gollwyd hwnnw hefyd i dan yn 1933. Agorwyd y pafiliwn presennol yn 1934 gyda lle i gynulleidfa o 700 yn unig. Bu theatr Bijou ym mhen y pier hefyd ond fe gollwyd hwnnw hefyd i dân yn 1933 - er ymdrechion signalwr rheilffordd ar ddyletswydd a gafodd staff y Swyddfa Bost i anfon am y gwasanaeth tan trwy gael eu sylw gan ddefnyddio megaffon. Ond er ei ymdrechion ac i'r gwasanaeth tan gyrraedd o fewn 12 munud ni fu'n bosib achub y theatr.
Roedd Bae Colwyn yn y cyfnod yma yn esiampl berffaith o gyrchfan gwyliau Fictorianaidd ac yna Edwardiaidd - mynd am dro ar hyd y promenâd, ymweld â'r pier, trochi yn y môr gyda digon o gytiau ymdrochi ar gael i sicrhau diweirdeb, a gweld digon o adloniant bywiog ar hyd lan y môr - hynny gan y Pierrots.
Ond ddim yn unig fel cyrchfan ar gyfer yr haf yr hybwyd Bae Colwyn, roedd hefyd yn cael ei gynnig fel cyrchfan trwy'r flwyddyn i gyd oherwydd y tywydd mwyn.
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.