麻豆社

Cymdeithas a Diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol

Dwylo a phlanhigyn - llun o istockphoto.com

23 Mawrth 2009

Cymdeithas wledig

Yn 1000 ni ellid disgrifio unrhyw ran o Gymru fel ardal drefol. Yn ystod y tri chan mlynedd ddilynol, sefydlwyd ugeiniau o drefi; y Bala, a ddaeth i fodolaeth yn 1309, oedd y dref olaf i'w chreu yn y Gymru ganoloesol. Er gwaethaf pwysigrwydd economaidd y trefi, nid oeddynt yn gartref i fwy na 10 y cant o drigolion y wlad. Dichon mai Caerdydd, ag efallai 2,200 o drigolion yn 1300, oedd tref fwyaf y wlad. 脗 thrwch y trigolion yn byw yn y cefn gwlad, roedd y system tirddaliadaeth yn ganolog i'r drefn gymdeithasol. Rhannwyd y Cymry brodorol yn ddau ddosbarth - y caeth a'r rhydd. Roedd y rhydd - y bonheddwyr (y rhai 芒 b葟n neu dras anrhydeddus) - yn berchen eu tir oherwydd eu bod wedi'i etifeddu. Gweithient y tir - ar y cyd yn aml - drwy'r gr诺p teuluol, y gwely. Roedd caeth, y taeogion, yn gweithio tir eu harglwydd ac yn talu rhenti bwyd iddo. Yn 么l haenau cynharaf y Llyfrau Cyfraith, taeogion oedd mwyafrif trigolion Cymru yn yr Oesoedd Canol cynnar, ond erbyn 1300 ymddengys eu bod yn lleiafrif yn y rhan fwyaf o'r wlad.

Cyfraith Cymru

Cyfraith Hywel Dda oedd y gyfraith a weinyddwyd yn llysoedd y br枚ydd a oedd o dan awdurdod y rheolwyr brodorol. Yn ganolog i'r gyfraith honno oedd pwysigrwydd rhwymau carennydd. Yn 么l trefn galanas, dyletswydd perthnasau'r sawl a oedd yn gyfrifol am ladd, neu niweidio neu sarhau rhywun oedd talu iawndal i berthnasau'r sawl a oedd wedi dioddef. O gymharu ag eraill o systemau cyfreithiol Ewrop ar y pryd, roedd Cyfraith Cymru'n rhoi statws eithaf uchel i wragedd, yn enwedig wrth ymdrin ag eiddo gwraig briod ac a'i hawliau dros ei phlant.

Newid cymdeithasol

Daeth newidiadau cymdeithasol yn sgil goresgyniadau'r Normaniaid. Mewn ardaloedd fel Bro Morgannwg, cr毛wyd aml i ffi marchog, sef darn o dir tir a fedrai gynnal milwr a'i farch; sail y ffioedd oedd y faenor lle llafuriai fileiniaid, y rheini'n aml yn ymfudwyr o'r tu allan i Gymru. Yn yr ardaloedd o dan reolaeth Gymreig, dechreuwyd ystyried bod torcyfraith yn drosedd yn erbyn y rheolwr yn hytrach nag yn erbyn carennydd, datblygiad allweddol yn nhwf y syniad o wladwriaeth. Ar yr un pryd, roedd tuedd cynyddol i'r taliadau i'r arglwydd fod mewn arian yn hytrach na mewn bwyd a gwasanaethau. Roedd cylchrediad arian yn brawf o dwf masnach, proses a fyddai'n gweddnewid rhwymiadau traddodiadol.

Datblygiad cymdeithas

Credir bod nifer trigolion Cymru wedi dyblu rhwng tua 1050 a 1300, a hynny'n bennaf oherwydd gwelliant yn yr hinsawdd a datblygiad yn yr economi. Oherwydd y cynnydd, roedd angen clirio fforestydd er mwyn ehangu'r tir amaethyddol; amlhaodd y pentrefi, codwyd melinau 欧d a melinau pannu, a datblygodd trefn gymdeithasol fwy soffistigedig.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.