Â鶹Éç

Diwedd Annibyniaeth Cymru

Golygfa wedi ei ail-greu o'r Canol Oesoedd

23 Mawrth 2009

Tynged y teuluoedd brenhinol Cymreig

Cafodd Gwenllian, merch Llywelyn, ei hanfon i leiandy; felly hefyd Gwladys, merch Dafydd. Treuliodd meibion Dafydd weddill eu dyddiau yn garcharorion. Dim ond un o frodyr Llywelyn, Rhodri, a oroesodd yr helbul, a dewisodd ef fyw yn dawel yn Surrey. Goroesodd gweddillion teulu brenhinol Deheubarth fel mân dirfeddianwyr. Dyna'n ogystal fu hanes aelodau o hen deuluoedd llywodraethol Morgannwg a Phowys Fadog.

Cadarnhau'r goresgyniad

Ar ôl rhyfel 1277, sicrhaodd Edward fod pedwar castell sylweddol yn cael eu codi. Erbyn 1283, roedd ganddo gynlluniau mwy uchelgeisiol. Caernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares oedd yr amddiffynfeydd mwyaf gogoneddus i'w codi yn unman yn Ewrop y drydedd ganrif ar ddeg. Maent yn deyrnged i sgiliau gweinyddol Edward ac i ddawn ei bensaer Iago o San Siôr. Maent hefyd yn arwydd o faintioli'r dasg o dorri gafael y Cymry ar eu gorffennol. Yn gysylltiedig â phob castell, sefydlwyd bwrdeistref, rhai ohonynt - Conwy a Chaernarfon, yn arbennig - wedi'u hamgylchynu â muriau gwych. Estron oedd y rheolaeth dros fasnachu yn y diriogaeth o gwmpas y bwrdeistrefi, sail tensiwn sylweddol.

Gwneud y gorau o'r sefyllfa

Bu anghydfod sylweddol yng Nghymru yn y ganrif wedi 1282. Fe'i gwelir yn llenyddiaeth y cyfnod, yn enwedig yn y canu brud, sy'n proffwydo am ddyfodiad gwaredwr. Cafodd fynegiant yng ngwrthryfeloedd Rhys ap Maredudd (1287), Madog ap Llywelyn (1294) a Llywelyn Bren (1316). Roedd anniddigrwydd eang yn y 1340au ac eto yn y 1370au pan fu Owain Lawgoch, ŵyr i Rodri, brawd Llywelyn, yn ceisio cymorth y Ffrancod i adennill ei hawliau etifeddol yng Nghymru. Eto i gyd, roedd y Cymry'n ymwybodol bod rhaid iddynt wneud y gorau o'u byd fel ag yr ydoedd. Â hwythau â phrofiad helaeth o ryfela, cawsant yrfaoedd yn gwasanaethu yn lluoedd brenin Lloegr, neu, fel yn achos Owain Lawgoch ac eraill, yn lluoedd brenin Ffrainc. Er mai aristocratiaid Eingl-Normanaidd oedd y prif swyddogion yng Nghymru, o rengoedd yr uchelwyr Cymreig y deuai llawer o'u dirprwyon, y rheini'n awyddus i fanteisio ar bob cyfle i ychwanegu at eu pŵer a'u cyfoeth. Plygu i'r drefn, felly, weithiau'n daeogaidd, weithiau'n surbwch, oedd prif nodwedd Cymry'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ond yna, ar ddechrau'r ganrif ddilynol, digwyddodd gwrthryfel hirhoedlog Owain Glyndŵr.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.