Tân y Ddraig Pwy fuasai'n meddwl fod Ceri Cunnington o Anweledig yn ffan o opera? Ambell air gan brif artistiaid Tân y Ddraig 2006, Elin Fflur a Bryn Terfel am ddiweddglo traddodiadol 'Gymreig' Gŵyl y Faenol.
Ceri Cunnington, Anweledig: "Roedd gan yr Arglwydd Assherton-Smith, a oedd yn arfer byw yn y stâd, geffyl wnaeth ennill y Grand National. Ddaru o gynnal parti i'r werin gael dathlu. Wel, y tro yma mae o fel petai'r werin yn cynnal parti i bawb arall. Efallai y gwnawn ni gyrraedd ar geffylau ...
"Ond bosib y bydd yn fwy parchus na'r Sesiwn Fawr!
"Rydyn ni am berfformio cwpl o ganeuon newydd. Mae'n gyffrous iawn i'r band ddod yn ôl at ein gilydd ar ôl peidio sgwennu dim efo'n gilydd ers dros ddwy flynedd. Da ni wedi gigio, ond wedi chwarae'r hen ffefrynnau.
"Dwi wrth fy modd efo opera. 'Dwi newydd droi'n 30 ac mi brynodd mam docynnau i mi fynd i'r opera yng Nghaerdydd - roedd o'n wych."
Lein yp llawn Tân y Ddraig 2006: Anweledig
The Proclaimers
Huw Jones a'r Band
Elin Fflur a'r Band
Dyfrig Evans
Nathan Williams a'r Band