Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bandiau
Elin Fflur         Elin Fflur
Mae'n gweld ei hun fel tylluan ynghanol mwncïod ac mae'n cyfansoddi pan ddaw'r sêr allan. Elin Fflur sy'n ateb ar ran ei band.
Aelodau
Mae Deian ar y dryms, Siôn ar y bâs a'r piano a Jason ar y gitâr.

O lle
Dwi'n dod o Lanfairpwll. Mae'r bechgyn yn dod o'r ardal yma, 'blaw am Jason sy'n dod o Stoke on Trent. Aethon ni i'r Blaenau un diwrnod ac roedd o wedi gwirioni, yn tynnu lluniau o'r chwareli a phopeth.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Mi wnes i gychwyn canu pan oeddwn i tua dwy a hanner, ac roeddwn yn cystadlu mewn eisteddfodau tan oeddwn tua pymtheg oed cyn ffurfio band efo fy mrawd, Carlotta. Wedyn mi fues i'n canu efo'r Moniars cyn creu'r band yma efo'r hogia tua blwyddyn yn ôl.

Gig gwaetha
Sesiwn Fawr Dolgellau neu'r Sioe Frenhinol yn 2005. Roedd y tywydd yn wych ac mi wnes i rîli joio.

Gig gorau
Maes B, pam ddaru Siôn droi i fyny heb ei keyboard - roedd yn rhaid iddo fenthyg un a doedd ein samples ni a ballu ddim arno fo.

Hefyd gig yn yr Electricity Club yng Nghaerdydd. Ddaru ni droi fyny a doedd na ddim system PA - ond ddaru pethau weithio allan yn y diwedd.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Dwi'n gwrando ar lot o bethau gwahanol, lot o hen bethau fel Jeff Buckley, Mamas and Papas, Mary Black a phethau mwy modern fel James Blunt, Coldplay, Gruff Rhys a'r Super Furries a Sibrydion.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
'Da ni'n sgwennu efo'n gilydd lot. Mae'n rhaid i'r ysbrydoliaeth fod yna - mae'n gorfod bod yn amser arbennig o'r diwrnod, gyda'r sêr allan a'r awyrgylch yn iawn.

Fi sy'n sgwennu'r geiriau'r rhan fwyaf o'r amser, o brofiadau personol neu o brofiadau pobl eraill. Mae'n rhaid iddo fy nharo i mewn ffordd emosiynol neu mae'n anodd ei roi i lawr ar bapur.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Dwi'n yfed llwyth o dd?r, colapsio a fel arfer mynd adra, 'blaw bod 'na ddiwrnod off y diwrnod wedyn.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Mi fyse'n rhaid iddo fod yn rhywun diddorol - Che Guevara o Cuba. Mi wnes i wylio ffilm am ei fywyd ac roedd yn rîli diddorol.

Neu Jim Morison gan ei fod o'n gorgeous ac yn genius.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Si?r o fod, heb i fi wybod. Mi wnes i fyw yng Nghaerdydd am gyfnod a dwi'm yn meddwl mod i wedi 'sgwennu dim byd! Roedd pob dim mor hundred miles an hour, ond fan hyn ti'n gallu ymlacio, gwneud pethau yn amser dy hun ac mae cyfansoddi'n dod yn haws.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Mi fyse'r band i gyd yn fwncïod, a fi yn dylluan achos maen nhw'n anifeiliaid doeth.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Canol y ffordd

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Yn Stadiwm y Mileniwm, gyda'r to yn agored.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
'Da ni yn Sioe Meirionnydd yn y glaw. 'Da ni am berfformio cyn bo hir ond dwi'm yn gwybod os ydy'r llwyfan wedi boddi neu beidio erbyn hyn! Mae 'na gymaint o fwd a glaw - mae'n ddigalon yma ar y funud.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Digwyddiadau
Radio Cymru
Adolygiadau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý