Ers yr ŵyl gyntaf ar dir braf stâd y Faenol ger Bangor yn 2000 mae'r ŵyl wedi ennill ei phlwy fel cyrchfan hanfodol i ddilynwyr cerddoriaeth glasurol a chyfoes neu unrhyw un sy'n hoffi gwrando, gwledda ac yfed gwin yn yr awyr agored. Cynhelir yr ŵyl bob blwyddyn ar benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst.
Yn 2006, y band enwog o Iwerddon, Westlife, agorodd yr ŵyl. Ar y nos Sadwrn, daeth y soprano Angela Gheorghiu a'r tenor Rolando Villazón i'r Faenol i ymuno â Bryn Terfel ar lwyfan Gala Opera 2006. Camodd Gheorghiu ar y llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf yn Covent Garden yn 1992 tra bod y Mecsicanwr, Villazón, yn prysur ennill ei blwy fel seren tenor newydd y byd ar ôl perfformiadau yn yr Opera Metropolitanaidd yn Efrog Newydd ac yn Covent Garden.
Daeth ein hoff diva, Shirley Bassey, i danio'r llwyfan a chodi'r to wrth berfformio ei hoff ganeuon o'i phum degawd ar y brig fel cantores ar y nos Sul.
Daeth yr ŵyl i ben yn y ffordd draddodiadol gyda noson Tân y Ddraig gyda'i chymysgedd unigryw o fandiau newydd a bandiau'r gorffennol, gan cynnwys Anweledig, The Proclaimers, Huw Jones a'r Band, Elin Fflur a'r Band, Dyfrig Evans a Nathan Williams a'r Band
Cludiant
Bydd y ddwy fynedfa i faes parcio'r ystâd yn cael eu hagor. Gofynnir ymwelwyr anabl ddefnyddio'r Brif Fynedfa er mwyn cael eu tywys i faes parcio arbennig ar gyfer yr anabl. Ffoniwch 01492 872000 i gael tocyn parcio i'r anabl gan wneud yn siwr bod eich rhif bathodyn glas a rhif eich cerbyd wrth law.
Os ydych chi eisiau gwersylla, ffoniwch Ystâd y Faenol ar 01248 670444.
Rhaglenni radio a theleduManylion llawn ar wefan . Lluniau o brif berfformwyr Gŵyl y Faenol 2005.Mwynhau yn y Faenol
|