Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Teledu Teledu a Radio
Detholiad o raglenni ar deledu a radio sydd o ddiddordeb i gymunedau a phobl y gogledd orllewin.

SIOE GELF: TŶ SIAMAS.

Nos Sul, 15 Gorffennaf, 7.30pm
Fe fydd rhifyn arbennig o'r gyfres Sioe Gelf nos Sul, 15 Gorffennaf yn bwrw golwg ar y prosiect uchelgeisiol o agor TÅ· Siamas, canolfan i draddodiadau canu gwerin Cymru yn Nolgellau.

Ar drothwy'r ŵyl gerddorol, y Sesiwn Fawr, yn y dref honno, fe fydd Luned Emyr yn Sioe Gelf: Tŷ Siamas yn edrych ar sut y gwireddwyd y freuddwyd fawr o agor y ganolfan mewn rhaglen fydd hefyd yn bwrw golwg cyffredinol ar y sin werin yng Nghymru heddiw.

Agorwyd Tŷ Siamas yn Neuadd Idris ar sgwâr Dolgellau fis diwethaf a bwriad y ganolfan, sydd wedi derbyn arian Amcan Un, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Gwynedd a Chynllun Arbrofol Eryri, yw datblygu'n ganolbwynt cenedlaethol ar gyfer y byd gwerin.

Eglura'r cynhyrchydd Carys Owen, "Mae agor y ganolfan yn bennod bwysig yn natblygiad y byd cerddoriaeth werin yng Nghymru. Rydym wedi cymryd y cyfle yn y rhaglen hon, nid yn unig i edrych ar y ganolfan a'i heffaith ar gerddoriaeth werin yng Nghymru, ond hefyd i fesur tymheredd y sin werin Gymreig mewn cyfnod cyffrous iawn."

Mae Tŷ Siamas, sydd wedi ei enwi ar ôl Elis Siôn Siamas, telynor o'r 18fed ganrif o Lanfachraeth ger Dolgellau a gyflwynodd y delyn deires i Gymru, yn rhoi sylw arbennig i'n hofferyn cenedlaethol mewn arddangosfa aml-gyfrwng gyffrous sy'n cyflwyno'r byd cerddoriaeth gwerin i gynulleidfa eang.

CLEFYD Y LLWCH
Nos Fawrth, 17 Gorffennaf, 9.00pm, S4C
Am dros ganrif, roedd clywed peswch a phobl yn ymladd am anadl yn synau cyffredin ymhlith glowyr a'r chwarelwyr yng nghymoedd glofaol y de a phentrefi llechi Gogledd Cymru wrth iddynt ymladd clefyd y llwch.

Bydd y rhaglen ddogfen Clefyd y Llwch, nos Fawrth, 17 Gorffennaf, yn edrych ar hanes y frwydr yn erbyn y clefyd creulon yr ysgyfaint, pneumoconiosis, anhwylder nad oes modd gwella ohono.

Trwy gyfuniad o archif ac ail greu dramatig, cawn glywed am y realiti creulon drwy gyfrwng cyfweliadau gyda'r ychydig ddioddefwyr sydd wedi goroesi'r frwydr yn erbyn y clefyd. Cawn gipolwg ar effeithiau dychrynllyd y salwch yma a'r frwydr barhaol i gael cydnabyddiaeth i'r dioddefwyr a'u teuluoedd.

Bydd arbenigwyr meddygol a haneswyr hefyd yn gosod y clefyd yn ei gyd-destun meddygol ac yn trafod sut roedd Cymru ar flaen y gad o safbwynt ymchwil i'r afiechyd.

SESIWN FAWR DOLGELLAU
Nos Wener, 20 Gorffennaf, 10.30pm, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar gael
Nos Sadwrn, 21 Gorffennaf, 9.30pm, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar gael
s4c.co.uk/haf07
Un o fandiau mwyaf cynhyrfus y sin roc yng Nghymru yn ystod yr wythdegau a'r nawdegau oedd y grŵp o Fethesda, Maffia Mr Huws. Ac mae'r newyddion mai nhw fydd yn cloi'r perfformiadau ar y nos Wener yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni wedi plesio'r ffans, yn hen a newydd.

Yn ogystal â'r darllediadau byw ar y nos Wener, sydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Steve Earle a Ryland Teifi, bydd S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau o'r ddau brif lwyfan ar y nos Sadwrn ac yn dangos rhaglen uchafbwyntiau ar y nos Sadwrn ganlynol.

Nid dyma'r tro cyntaf i Maffia ail-ffurfio gan iddynt berfformio yng ngŵyl Pesda Roc y llynedd a hefyd yng Ngŵyl y Faenol a gig dathlu deng mlwyddiant Golwg dros y blynyddoedd diwethaf. Ond, yn ôl Neil Williams, prif leisydd y grŵp, dyma'r tro cyntaf iddynt berfformio yn y Sesiwn Fawr ar ei newydd wedd.

"Mae'r hogia' i gyd yn edrych ymlaen at chwarae yno gan gynnwys lot o'r hen ffefrynnau fel 'Da ni'm yn rhan o'th gêm fach di, Newyddion Heddiw, Hysbysebion a Ffrindiau, " meddai Neil gan gyfeirio at y brodyr, Gwyn (drymiau) a Siôn Jones (gitâr), Deiniol Morris (gitâr fas) a Hefin Huws (llais). "Ma' 'na awyrgylch arbennig yn perthyn i'r Sesiwn Fawr ac mi fyddan ni'n dilyn Steve Earle, sy'n boblogaidd iawn ar hyn o bryd.

Ymhlith yr artistiaid eraill fydd yn perfformio yn ystod y penwythnos fydd y Dubliners, Cerddorfa Ukulele o Brydain Fawr oedd yn boblogiadd iawn y llynedd, Meic Stevens, Genod Droog, Gwibdaith Hen Frân a Radio Luxembourg.

RASUS Nos Lun, 23 Gorffennaf, 9.30pm, S4C
s4c.co.uk/rasus.
Fe fydd cyfres rasio harnes S4C, Rasus yn darlledu trotian o'r safon uchaf o leoliad newydd yn Llanfair Talhaearn. Dai Jones fydd yn cyflwyno pecyn rasio cyffrous iawn, sy'n cynnwys cymalau diweddaraf y Crochan Aur a gwobrau ariannol gwerth £17,000, o'r pentref gwledig swynol, bum milltir i'r de o Abergele.

Daeth criw o garwyr trotian brwd ynghyd i drefnu'r digwyddiad rasio, gan gynnwys y gyrrwr adnabyddus, Megan Taff, sy'n byw yn ymyl Llanfair TH yn y pentref gerllaw, Llangernyw.

Meddai Megan, sy'n wyneb cyfarwydd ar Rasus dros y blynyddoedd, "Mae wedi bod yn freuddwyd gen i ers blynyddoedd i drefnu cyfarfod rasio trotian yn yr ardal mewn lleoliad ynghanol y wlad. Rydym yn ddigon ffodus i gael trac Tir Prince yn yr ardal, ond y teimlad oedd y byddai'n braf cael rasus ynghanol cefn gwlad, lle y gallai pobl leol, a ffermwyr yn arbennig, fwynhau diwrnod yn yr awyr iach."

Gall gwylwyr gartref ymuno yn yr hwyl hefyd, trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ras am Rif S4C. Rhaid cofio cofrestru yn gyntaf ar-lein, s4c.co.uk/rasus neu drwy Wifren Gwylwyr S4C, 0870 6004141. Gellir hefyd mwynhau holl rasus Llanfair Talhaearn ar-lein ar wefan cynhwysfawr Rasus.

BANDIT
Nos Iau, 26 Gorffennaf, 9.30pm, S4C
Cyflwynir dau rifyn arbennig o Bandit o Bentref Ieuenctid ar faes Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru.

Mae rhaglenni Bandit o'r Sioe ar nos Iau 26 Gorffennaf a 2 Awst, yn rhan o ddarpariaeth haf y gyfres sydd hefyd yn cynnwys dwy raglen arbennig o'r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Huw Evans fydd yn cyflwyno'r rhaglen gyntaf o Bentref Ieuenctid y Sioe Fawr a fydd yn cynnwys perfformiadau gan y bandiau Mattoidz, Cowbois Rhos Botwnnog, Coda, Bob ac Amheus.

I'r Mattoidz a Cowbois Rhos Botwnnog, mae'r gig yn y Pentref Ieuenctid yn un o restr hir dros dymor yr haf, gan gynnwys ymddangosiad diweddar yn Sesiwn Fawr Dolgellau a hefyd byddent yn perfformio ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau.



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Lluniau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý