Lluniau TÅ· Siamas
"Breuddwyd ambell i berson yn Nolgellau oedd TÅ· Siamas. Am ddeng mlynedd mae nifer o wirfoddolwyr wedi ceisio cael canolfan genedlaethol i gerddoriaeth werin yma, gan nad oes cartref priodol i'r math yma o gerddoriaeth yng Nghymru.
Agoriad swyddogol
Agorodd TÅ· Siamas yn swyddogol ddydd Iau, 14eg o Fehefin 2007 gyda gorymdaith drwy'r dref yng nghwmni disgyblion lleol a phibwyr Cymreig a chyflwyno allwedd i'r Dr Meredydd Evans gan y plant. Cyswllt: mabon@tysiamas.com. Gwefan y ganolfan:
'Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
"Ond yn sydyn iawn ddiwedd 2005, fe gawson nhw gadarnhad gan arianwyr Amcan Un, WDA, Cyngor Gwynedd a Chynllun Arbrofol Eryri y gallen nhw fynd ymlaen efo'r cynlluniau.
"Bydd yna arddangosfa aml-gyfrwng i bobl yr ardal ac ymwelwyr i ddeall cerddoriaeth gynhenid trwy arbrofi, creu a chlywed - yng nghyd destun gweddill y byd.
"Hefyd mi fydd yna awditoriwm i gynnal nosweithiau dawns a chanu gwerin a bydd ganddon ni'r gallu i recordio lleisiau ac alawon gwerin lleol i Ddolgellau, gogledd Cymru a Chymru i gyd.
"Y gobaith hefyd yw mynd ati i gynnal digwyddiadau yn ardal Meirionydd fel nosweithiau gwerin, darlithoedd a gwersi offerynnau.
"Y prif offeryn gwerin yw'r delyn, neu yn fanylach y DELYN DEIRES. Mae Tŷ Siamas wedi cael ei enw ei ar ol Elis Siôn Siamas, telynor o Lanfachraeth oedd yn chwarae i'r tywysogion yn y ddeunawfed ganrif. Fo wnaeth gyflwyno'r delyn deires i Gymru.
"Mae'r CRWTH (gweler y llun)
yn offeryn pwysig arall ym myd cerddoriaeth werin, a oedd bron wedi marw allan yng Nghymru tan yn ddiweddar.
"Un arall diddorol yw'r PIBGORN, offeryn sy'n perthyn i bibau Uwchdiroedd yr Alban neu bibau Uileann Iwerddon. Mae'r rhain yn boblogaidd ond wrth fynd nôl i gyfnod y Celtiaid, maent yn perthyn i Gymru cymaint ag i'r gwledydd eraill, ond ein bod fel cenedl wedi anghofio amdanynt.
"Yn fwy diweddar, mae cerddorion gwerin wedi mabwysiadu offerynnau fel y banjo, harmonica a'r mandolin yn ogystal â'r ffidil a'r gitâr. Gallant ddefnyddio unrhyw offeryn gwerin i greu cerddoriaeth roc, ac offerynnau roc i greu cerddoriaeth gwerin.
"Rydym eisiau dangos bod cerddoriaeth werin yn gyfoes ond hefyd â chysylltiadau â'n cyndeidiau. Mae'n help i ni ddeall pwy ydyn ni ac o ble rydyn ni'n dod.
"Fydd y ganolfan ddim yn amgueddfa sy'n cadw pethau y tu ôl i ffenestri gwydr, ac edrych ar bethau sydd i bob pwrpas wedi marw. Arddangosfa fyw fydd Tŷ Siamas, gyda chyfle i bobl gymryd rhan a chreu - dangos bod traddodiadau gwerin Cymru yn fyw ac yn datblygu.
"Mae Cymru wedi profi ein doniau yn y byd pop/roc gyda 'Cool Cymru' y 1990au. Mae'n amser rŵan i hyrwyddo a dangos bod ein cerddoriaeth gynhedig cystal ag unrhyw draddodiad ledled y byd."
Canolfan werin: cefndir a barn yr arbenigwyr
Mwy am ein hofferynnau gwerin:
Y delyn deires.Pibgorn
Crwth.