Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gruff Rhys yn perfformio ym Manceinion 2003 Gwreiddiau Dwfn
Bethesda, rhywbryd yn yr 80au. Mae'r hen dref chwarel wedi dod yn gartref annisgwyl i sîn gerddoriaeth fyrlymus ac mae dau hogyn ysgol yn recordio eu demo cyntaf efo help soffa a thun bisgedi.

Ar y pryd roedd Maffia Mr Huws yn eu hanterth a gŵyl Pesda Roc yn ddigwyddiad blynyddol yn y dref. Y ddau fachgen ifanc oedd Gruff Rhys a Rhodri Puw, a ddaeth, bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach yn aelodau o'r Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci.

Maffia Mr Huws yn yr 1980au"Mi gafodd Maffia Mr Huws effaith anferth ar Fethesda," meddai Gruff Rhys a fagwyd gerllaw yn Llanllechid. "Roedden nhw ar dân yn fyw, efo o leiaf dau fws o Fethesda yn eu dilyn o gwmpas o gig i gig. Mi gafodd lot o grwpiau eraill eu ffurfio o gwmpas yr wythdegau cynnar hefyd oherwydd ysbrydoliaeth Maffia Mr Huws."

Roedd nifer o unigolion dylanwadol yn y dref hefyd. Yn eu plith Les Morrison a agorodd Stiwdio Les yno ac sy'n dal i gydweithio efo'r Super Furry Animals fel technegydd.

Meddai Gruff: "Roedd o'n gatalydd mawr i gerddoriaeth y dre, a fo wnaeth 'sgwennu lot o ganeuon ar gyfer bandiau o'r ardal.

"Mi agorodd o stiwdio efo Alan o'r Maffia. Pan fu farw Alan mewn damwain car yn Llydaw, roedd Les yn ddewr i gadw'r stiwdio i fynd."

Ffa Coffi PawbOni bai am yr hinsawdd yma efallai na fyddai SFA na'i egin-fand, Ffa Coffi Pawb, yn bodoli heddiw ond mae llawer o'r diolch hefyd i ysgol roc leol a band ifanc o'r enw Machlud.

"Mi gafodd ysgol roc ei ffurfio yn y clwb ieuenctid ym Methesda. Mi fyddai tua dwsin o blant yr ardal yn mynd yno i ddysgu sut i chwarae offerynnau gwahanol," cofia Gruff.

Dyma lle y cyfarfu â Dafydd Ieuan, drymiwr presennol y Super Furries.

"Roedd y ddau ohonon ni'n trïo dysgu chwarae'r dryms! Mi wnes i ymuno efo'r band Machlud, efo Neil Roberts, Andrew Roberts ac Aled Jelibîn a Martin Beattie (bellach o Celt) yn canu.

Dafydd Ieuan"Mi fydden ni'n ymarfer dair gwaith yr wythnos ac yn gigio bob penwythnos. Ond wedyn mi ddaru Martin a Neil gychwyn gweithio yn y chwarel, a mi wnaeth pethau ddod i ben rywsut."

Roedd dylanwadau'r drymiwr ifanc ar y pryd yn amrywio o chwaeth gerddorol brawd a chwaer hŷn i gymysgedd o sîns pync ac electronig arbrofol lleol.

"Roedd fy mrawd, Dafydd, yn aelod o Chŵd Poeth, y band pync cyntaf o Fethesda. Mi fydden nhw'n ymarfer yn ein tŷ ni ac yn gadael gitârs o gwmpas y lle, felly roedd o'n ysbrydoliaeth mawr i mi gymryd diddordeb mewn cerddoriaeth," meddai Gruff.

"Ac roedd fy chwaer Non yn chwarae'r gitâr hefyd. Roedd hi'n hoffi pobl fel Bob Marley, Black Sabbath a'r Undertones - recordiau pync mwy melodig.

Bandiau arbrofol

"Fel Les, roedd Gorwel Owen o Sir Fôn yn guru i ni ar y pryd hefyd. Roedd o'n aelod o fandiau arbrofol fel Sgidiau Newydd, Plant Bach Ofnus a'r Brodyr, bandiau oedd yn wirioneddol dda ac o safon ryngwladol.

"Roedd y Brodyr yn edrych fel tase nhw wedi glanio o'r gofod - jest yn hollol bohemian, efo gwallt fel yr Human League mewn cyfnod pan roedd y rhan fwyaf o bobl mewn gigiau Cymraeg yn gwisgo crysau rygbi! Doedd Cymru rioed wedi gweld y ffasiwn beth.

Siop Recordiau'r Cob"Roedd yna hefyd sîn gwych yn Llanrwst yn y cyfnod, efo'r Cyrff a Tân Gwyllt, a sîn pync mawr ym Mhorthmadog hefyd!"

Yn y cyfnod roedd Recordiau'r Cob ym Mhorthmadog yn un o siopau recordiau mwyaf blaenllaw Prydain, yn gwerthu llawer o gerddoriaeth newydd o America gan sicrhau bod pobl yr ardal yn gwybod cymaint am gerddoriaeth newydd â phobl Llundain a thu hwnt.

Grŵp arall dylanwadol o'r ardal oedd Elfyn Presli a'r Massey Furgusson yn ôl Gruff: "Dwi'n cofio nhw'n hongian rownd Pesda Roc yn edrych fel petaen nhw wedi disgyn o'r gofod ac yn canu caneuon gwych fel Jacbŵts Maggie Thatcher a Parti Bili Tomos - un o'r caneuon gorau i gael ei recordio yn y Gymraeg erioed.

"Dyma'r math o ganeuon pync pwerus ofnadwy y gellid eu chwarae unrhyw le yn y byd ac mi fuasai pobl yn eu gwerthfawrogi," meddai.

Morrissey yn Llandudno

Ar ôl i'r band â'r enw proffwydol, Machlud, ddod i ben, doedd Gruff Rhys fawr o dro yn ail-gydio ynddo a ffurfio un arall, a hynny efo'i ffrind ysgol Rhodri Puw, sydd bellach yn aelod o Gorky's Zygotic Mynci. Mae'n esbonio sut i siomedigaeth efo cyngerdd gan y Smiths sbarduno'r ddau i ddechrau recordio a ffurfio Ffa Coffi Pawb:

Clawr un o dapiau cyntaf Ffa Coffi"Roeddwn i yn yr un dosbarth ysgol â Rhodri Puw, ac roedd y ddau ohonon ni'n hoffi bandiau fel y Velvet Underground, Joy Division, New Order a'r Jesus and Mary Chain.

"Roedden ni'n awyddus i ffurfio grŵp oedd yn adlewyrchu ein chwaeth ni mewn cerddoriaeth.

"Mi aethon ni weld y Smiths yn Llandudno un noson, ond mi gafodd y gig ei ganslo am fod rywun wedi ymosod ar Morrissey yn Preston y noson gynt.

"Felly aeth Rhodri a minnau adre mewn tymer ddrwg, a phenderfynu recordio albwm ar hen beiriant casét yn stafell ffrynt ei rieni!

"Roedd y caneuon yn eithaf rough a blin, gan ein bod ni'n flin ar y pryd! Roedd o hefyd yn arbrofol ofnadwy - ddaru ni ddefnyddio'r soffa a tun bisgedi fel drymiau.

"Mi wnaethon ni gopïau o'r albym ar dapiau brynais i o'r Bargain Centre ym Mangor am 35c, a'i werthu rownd tafarnau Bangor am 50c. Mi ddaru ni werthu un o'r tapiau yma i Gorwel Owen."

Erbyn 1996, Gorwel Owen oedd cynhyrchydd albwm gyntaf y Super Furry Animals, Fuzzy Logic ac mae'n dal i gydweithio'n glos efo'r band.

Pesda Roc a sîn heddiw

Ar y dechrau, chwarae'r drymiau oedd Gruff am ei wneud, nid canu, ond doedd neb arall eisiau canu chwaith, felly bu rhaid iddo fo sefyll yn y bwlch ac fe fydden nhw'n defnyddio peiriant dryms a dril wrth chwarae'n fyw. Yn nes ymlaen ymunodd ei hen ffrind Dafydd Ieuan i chwarae'r drymiau yn ei le ac, efo Dewi Emlyn ar y gitâr fâs, mi ddaethon nhw'n fand mwy confensiynol.

Hei Vidal oedd CD ola'r band ac fe chwalon nhw yn 1993. Wedi cyfnod yn byw ym Marcelona, daeth Gruff adref a ffurfio'r Super Furry Animals gyda Dafydd Ieuan, Cian, brawd Dafydd, a Huw Bunford a Guto Price o Gaerdydd. Heddiw mae'r SFA yn un o grwpiau mwyaf llwyddiannus Cymru ac wedi chwarae ar draws y byd ac fe fuon nhw ar daith yn America yn 2003.

Pesda Roc 2003Cyn hynny, yn haf 2003, fe ail atgyfodwyd hen ŵyl Pesda Roc yr 1980au fel rhan o ŵyl y Dathlu ym Methesda i gofnodi canmlwyddiant diwedd streic fawr y Penrhyn.

"Roedd cael gŵyl mawr fel Pesda Roc yn gynhyrfus iawn ers talwm," meddai Gruff. "Mi fyddai yno faes pebyll mawr, a lot o bobl ddiddorol yn dod draw i Bethesda.

"Pan es i nôl i chwarae yn Pesda Roc efo'r SFA, doeddwn i ddim yn hoffi meddwl amdanon ni fel y prif fand. Mi gafodd yr ŵyl ei chomisiynu gan y pwyllgor dathlu i nodi canmlwyddiant y Streic Fawr, ac mi roedd hefyd yn amser i ddathlu diwylliant a cherddoriaeth Bethesda."

Ac er fod Gruff yn credu bod llawer o dalent yn sîn roc yr ardal heddiw ac yn crybwyll y Tystion, MC Mabon a Kentucky AFC fel enghreifftiau, ei neges i gerddorion Cymru ydy nad y sîn ydy'r peth pwysicaf.

Meddai: "Mae'n bwysig i bobl beidio â meddwl am sîn roc fel y cyfryw, ond jest gwneud beth mae'n nhw'n teimlo fel ei wneud".


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý