Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Clawr cyfrol newydd Arwyr Moelfre! Arwyr Moelfre
Rhagfyr 2004
Nos Fercher, 17 Tachwedd yn y Getws Dderw lansiwyd llyfr newydd Partneriaeth Moelfre, sef Arwyr Moelfre - llyfr hynod ddifyr a lliwgar, yn olrhain hanes anhygoel achub criw yr Hindlea yn 1959.
Yr awdur yw Robin Evans, mab Mrs Lil Evans a'r diweddar Capten Robert Evans (Bob Teras i ni yma ym Moelfre!).

Yn anffodus nid oedd Robin yn gallu bod yno ar y noson gan ei fod yn glaf yn Ysbyty Gwynedd - da iawn yw deall ei fod adref erbyn hyn ac ar wella - daliwch ati Robin!

Yr oedd y gwesty yn orlawn a phawb yn eiddgar am gael copi o'r llyfr.

Brian Hope gafodd y fraint o gyflwyno'r llyfr a'i gynnwys i'r gynulleidfa ac ar yr un pryd dymunodd yn dda i'r awdur. Cafwyd sgwrs hefyd gan Sandy Balfour o Gaergybi am y Royal Charter a'i freuddwyd ef am i'r saga honno gael ei phortreadu mewn ffilm rhyw ddydd. Rhoddodd Cwmni Theatr Ieuenctid Môn gyflwyniad theatrig o'r hanes a hynny yn effeithiol iawn a bu'r grŵp 'Canu Coch' o Lanbedrgoch yn swyno'r gynulleidfa â'u cyfraniad hwythau.

Trefnwyd raffl lwyddiannus gan Gwenda a Margaret Parry. Mwynhawyd y lluniaeth a drefnwyd gan staff y Getws pawb yn canmol. Diolchodd Eifion Hughes i Derlwyn Hughes am drefnu'r noson ac i bawb a fu'n cymryd rhan. Hyfryd oedd cael cwmni David T. Evans, mab y Cocsyn Richard M. Evans a rhai o deuluoedd ei griw, yn y lansiad.

Mynnwch gopi o'r llyfr! Mae o ar werth yn Siop Wlân Helen a Siop Grefftau Twm Penstryd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý