Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Hoheria Amlwch Hoheria Amlwch
Chwefror 2004
Mae'n debyg nad yw'r rhan helaeth ohonoch erioed wedi clywed am y goeden hon er ei bod wedi bod mewn bodolaeth ers bron i 70 o flynyddoedd.
Fel mae ei henw'n awgrymu mae ganddi gysylltiad cryf â thref Amlwch am yno y crwyd a'i magwyd ac yno mae i'w gweld heddiw yng ngardd y diweddar W R. Jones.

Daeth W.R. i Amlwch gyda'i wraig a'i fab, Richard yn 1919 o Gonwy i ddechrau ei yrfa fel cyfreithiwr ac yn fuan wedyn symudodd i Bryn Tirion (y Bryn i lawer.) Yno cafodd y cyfle i roi ei bleser o arddio ar waith (4 acer). Roedd ei ddawn a'i wybodaeth o blanhigion heb ei ail ond ei wybodaeth o blanhigion tramor oedd ei gryfder mwyaf yn enwedig rhai o Seland Newydd a dyma lle mae stori'r Hoheria'n dechrau.

Gair Maori yw Hoheria, gair sydd ym golygu Lacebark / Ribbon Wood. Mae chwe math o'r coed hyn yn eu cynefin yn Seland Newydd. Maent yn tyfu dros 70 o droedfeddi ac yn blodeuo bob haf (Gorffennaf / Awst) gyda phentwr o flodau gwynion pert.

Penderfynodd W. R. gael o leiaf 3 math sef yr Hoheria Glabrata, Hoheria Sextylossa ac Hoheria Populena a'u rhoi mewn gwahanol rannau o'r ardd mae hyn o gwmpas 1926. Erbyn canol y 30au roedd yr ardd wedi datblygu'n dipyn o Eden, wedi i lawer o'r planhigion tramor lwyddo a ffynnu yn haul a phridd Amlwch. (Rhai ohonynt erioed wedi cael eu tyfu tu allan i erddi Kew, Lloegr). Yn y cyfnod yma roedd yr ardd yn cael sylw yn aml yn y prif gylchgronau garddio.

O gwmpas 1938 dechreuodd y dair Hoheria's flodeuo ac mae'n sicr mai yn ystody cyfnodau yma y cafodd y math newydd Glory of Amlwch ei chreu, er bod W.R. wedi sylwi hyn, rhaid oedd cael sicrwydd pendant. Yna galwodd am gymorth ei gyfeillion y brodyr Slinger o Feithrinfa Slive Donard, Swydd Down, Iwerddon (debyg mai o fan hyn y daeth y dair Hoheria's cyntaf). (Roedd y Feithrinfa yma'n adnabyddus o Escallonia Donard a.y.y.b.)

Wedi ymchwil darganfuwyd fod y math newydd yma yn wir wedi ei chreu i rhywbeth na ddigwyddodd yn ei chynefin yn Seland Newydd).

Yn drist yn 1941 bu W R. farw (58 oed), naw mis cyn i'r Hoheria gael ei derbyn gan yr RHS, a'i weddw Elenor Jones a'i henwodd. Trwy gyfnod yr Ail Ryfel Byd nid oedd yn bosib ei gwerthu (trwy Meithrinfa Donard).

Yn 1946 dechreuodd y byd garddio ail ddechrau er i hyn fod yn araf deg am resymau naturiol. Ond mae'n gywir dweud roedd y diddordeb mwyaf yn dod o erddi Lloegr, Iwerddon a'r Alban (Bodnant 1957).

Er hynny enillwyd gwobr anrhydedd gan y RHS yn 1960 - a llawer wedyn. Wedi ychydig o waith ymchwil yn ddiweddar rwyf wedi clywed ei bod wedi gwneud ei chartref yn un neu ddau o'r gerddi Brenhinol yn yr Alban, yn ogystal â'i thaith drosodd i Ewrop.

Beth am yr Hoheria wreiddiol? Mae'n sefyll yn falch dros 60 troedfedd yng nghesail y Bryn yn barod i fwrw ei gogoniant yr haf nesaf fel testament i W R. ac i Amlwch.

(Diolch i Ian Jones, ŵyr W. R. Am y stori.)

Rhagor o wybodaeth ar y We - http://www.meden.demon.co.uk/Malvaceae/Hoheria/Hoheria.html
Gellir ei gweld yn ei gogoniant yn The Garden House, Yelverton, ger Tavistock, Devon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý