麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Jeremiah Williams gyda'i wyres. Pwy oedd Jeremiah?
Cwestiwn mawr Jeremiah Williams o'r Bermo ydy pwy oedd Jeremiah Williams? Dewch ar daith efo fo wrth iddo geisio datrys hanes ei deulu ac edrychwch ar ei albwm o hen luniau.

"Pan gychwynnes i ymchwilio i hanes fy nheulu, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am neb ymhellach yn 么l na hen daid fy nhad, ac yna dim ond mai Hugh Williams oedd ei enw a'i fod wedi cael ei eni yn Hafod-y-Fedw, Ganllwyd.

"Mi wnes i ddarganfod ei fod wedi priodi Margaret Elis, a bod o leiaf dau genhedlaeth wedi byw yn Hafod y Fedw.

"Ond y poen mwya' i mi ydy tad Hugh Williams, sef Jeremiah Williams. Ar 么l ysgrifennu i archifdy Sir Ddinbych, dysgais mai rhieni Hugh, a anwyd yn 1812, oedd Jeremiah a Margaret - ond feder neb ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth o briodas y ddau yma.

"'Dwi wedi dod ar draws sawl Jeremiah, ond alla i ddim bod yn si诺r p'run yw'r un cywir. Roedd un o'r Jeremiahs rydw i'n ymchwilio iddo yn arddwr, o bosib yn Y Faenol, ond y cwestiwn ydy pa Faenol! Dwi'n deall bod yna stad 'y Vaynol' ger Bangor, ond ar fap o 1887 dwi wedi dod o hyd i bedwar Faenol arall, dau ohonynt heb fod ymhell o Lanelwy a Llansannan. Ond alla' i ddim dod o hyd iddynt ar fap modern.

Jeremiah Williams, hen daid i Jeremiah Williams

"Wrth archwilio'r cyfrifiad, mi gefais lot mwy o lwc gyda Hugh Williams, fy nhaid. Gweles fod ganddo ddau frawd a dwy chwaer. Wrth edrych o gwmpas, mi ffeindies i bod un o'i frodyr, Lewis Williams, wedi mynd i Golorado, America i yn 1902 i weithiodd yn y gwaith aur yn Russell Gulch, Colorado. Gweithiodd yno am ddeng mlynedd. Wedyn, aeth o fan'no i weithio i'r bwrdd trydan, priododd, a chafodd bedwar o blant cyn iddo farw yn 1947.

"Mi ddes i o hyd i gyfenw wyres brawd fy nhaid, a'r llynedd, mi gysylltais 芒 dyn o Denver, Colorado, a ddaeth o hyd iddi yn y llyfr ff么n. Pan ffoniais i hi, mi ddychrynodd am ei bywyd! 'Doedd ganddi hi ddim syniad bod ganddi deulu o Gymru. Roedd siarad efo America yn brofiad hefyd - gallwn ei chlywed hi yn gliriach na fy mrawd yn y Bontddu!

"Roedd un o chwiorydd fy nhaid hefyd wedi mynd allan i America yn 1906 i fyw at hen fodryb (chwaer fy hen nain). Roedden nhw'n byw yn Racine, Wisconsin.

Jeremiah Williams arall a oedd bron 芒 phriodi merch pennaeth llwyth 'Indiaidd' yng Nghanada"Dysges hefyd am frawd arall i fy nhaid, sef Jeremiah Williams (un arall!). Roedd yntau wedi mynd allan i weithio ar ryw ranch allan yn Alberta, Canada, a daeth yn ffrindiau mawr gyda phennaeth llwyth o 'Indiaid' yno. Roedd yr 'Indian' yma am iddo briodi ei ferch, ond dychwelodd Jeremiah i Borth y Gest, ac aros yno nes iddo farw.

"Fi yw'r seithfed Jeremiah yn y teulu - a'r olaf, dwi'n credu. Mae un wedi'i 'wanhau' yn Jeremy, ond 'does yna ddim 'chwaneg o Jeremiahs!"

  • Darllenwch am gysylltiad y teulu gyda gwaith aur y Clogau.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy