|
|
Hen daid Jeremiah, Jeremiah Williams, wedi ei eni yn Hafod-y-Fedw, Llanelltyd. Priododd Mary Williams yn 1878. |
|
Hen nain Jeremiah, Mary Williams, a'i merch Mary Elizabeth a dau o'i phlant o flaen eu cartref tua 1907.
|
|
David Williams, ail ŵr Mary Elizabeth, chwaer i Huw Williams, taid Jeremiah, yn casglu gwlân o ffermydd ar y ffordd o'r Bermo i Harlech (gyferbyn â Thŷ Nant a Hendre Clochydd, Llanaber). |
|
Sara Ellen Williams a Huw Williams, nain a thaid Jeremiah Williams, a thri o'u plant - Robert, Jeremiah a John ar ddechrau'r 20fed ganrif.
|
|
Jeremiah Williams arall - mab Jeremiah a Mary Williams Hafod-y-Fedw. Bu'n byw yng Nghanada am gyfnod. |
|
Lewis Williams, mab arall i Jeremiah a Mary Williams a aeth i Golorado, America yn 1902 i weithio yng ngwaith aur Russel Gulch.
|
|
Mab arall Jeremiah a Mary a thad y Jeremiah presennol, John Williams (chwith), yn dod allan o waith aur y Clogau, gyda'i bartner Hugh Edwards tua 1950-60. |
|
Jeremiah Williams, ail o'r chwith gyda'i frawd John, ei fam Beatrice a'i dad John gyda dau ffrind tua 1949.
|
|
|
|
|