Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
John Williams (chwith) a'i bartner Huw Edwards tu allan i Lefel Fawr y Clogau tua 1950-60 Cloddio am aur
Caeodd cloddfeydd aur Gwynfynydd a'r Clogau rhwng y Bermo a Dolgellau yn yr 1990au ond yn nechrau'r 20fed ganrif roedd yn waith aur o bwys. Jeremiah Williams o'r Bermo sy'n sôn am hen gysylltiad ei deulu gydag aur Cymru.

"Taid fy nhad, Jeremiah Williams, oedd y cloddiwr aur cyntaf yn ein teulu ni. Dwi ddim yn siŵr os mai yng Ngwynfynydd neu yn y Clogau y byddai'n cloddio, ond dros y blynyddoedd bu ei fab, Huw, a'i fab ef, sef fy nhad, hefyd wrthi'n cloddio am aur.

"Yn y 1950au, dim ond fy nhad a'i bartner, Huw Edwards, oedd yn tyllu am aur yn ystod y gaeaf, ac yn ystod yr haf, roedd y ddau yn ddigon prysur gyda'r holl waith fferm hefyd wrth gwrs.

"Fel bachgen ifanc, mi fyddwn i yn mynd heibio'r cloddfeydd fin nos, wedi diwrnod o waith yma ac acw yn y pentref ac yn helpu gyda'r wincho, sef tynnu o'r twll y pridd a'r graig roedd fy nhad a Huw wedi'i saethu yn ystod y dydd. Roedden nhw'n creu digon agos i dunnell y dydd, ac mi fyddwn i'n helpu i lenwi'r tryc, a'i wagio tu allan i'r gloddfa. Mewn tywydd braf, bydde dad a Huw wedyn yn eistedd i lawr ar stolion godro, estyn bwced o bridd, tollti dŵr drosto a chwilio am yr aur.

"Yn 1979, roeddwn i'n gweithio yn Nolgellau. Daeth fy nhad yno i ddweud am ryw ddyn o Seland Newydd oedd â dipyn o bres, a'i fod am gloddio am yr aur yn Ngwynfynydd a'r Clogau. Er nad oeddwn i fawr o eisiau, roedd fy nhad am i mi weithio yn y gloddfa yn ei le.

""Chdi 'di'r unig un feder fynd drosta i, gan fy mod i 'di mynd yn rhy hen" medde fo wrthyf. "Cer di, mi ddyweda i wrthyt ti lle i dyllu a saethu."

"A felly, dyna lle roeddwn i am bron i dair blynedd, yn gweithio gyda chyfaill arall - a hynny heb fasg ar fy wyneb na pheiriannau tyllu iawn. Ond mi ddaethon ni o hyd i aur cythgam o dda. Dwn i ddim beth ddigwyddodd i'r aur yma ar ôl ei dyllu - aeth y boi o Seland Newydd â fo i ffwrdd.

"Yna daeth y Caernarfon Mining Company i gloddio. Mi ddaru nhw lwyddo i godi dwy filiwn o bunnau ar y stock exchange, ac mi ddaethon nhw â daearegydd o Gernyw, a thîm o gloddwyr o'r cloddfeydd tin yno.

"A dyna ddiwedd cysylltiadau ein teulu ni efo'r cloddfeydd ar y cyfan. Er fod y cloddwyr o Gernyw yn rhai digon galluog, 'doedd fy nhad ddim yn hapus iawn efo nhw. Roedden nhw'n saethu gormod o bridd ar y tro, gan ei wneud yn amhosib i gadw llygad ar lle roedd yn aur yn eistedd yn y ddaear. Wedi darganfod un boced o aur wrth gloddio ryw ddeg troedfedd i lawr, gellid, mwy na thebyg, ddarganfod poced arall. Felly mae'n bwysig gwybod lle yn union roedd yr aur i gychwyn.

"Caeodd y cloddfeydd aur yn y 1990au, a dyna ddiwedd arnyn nhw am y tro. Aeth fy nhad fyth yn ôl yno i weithio - roedd o wedi torri ei galon braidd."

  • Darllenwch hanes teulu Jeremiah Williams.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý