Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cyflwyno briwsion Cyflwyno briwsion
Cyflwyno briwsion i Lywodraeth y Cynulliad
Doedd yna neb i dderbyn briwsion Cymorth Cristnogol ym mhabell Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun.

Yr oedd y briwsion wedi eu casglu yn ystod y gwasanaeth crefyddol ym mhafiliwn yr Eisteddfod fôr Sul pan rannwyd bara rhwng y gynulleidfa.

Yr oedd y gwasanaeth yn nodi pen-blwydd mudiad Cymorth Cristnogol yn drigain oed.

Fore Llun gorymdeithiodd aelodau o Gymorth Cristnogol dan arweiniad Jeff Williams, ysgrifennydd cyffredinol y mudiad yng Nghymru, o'u pabell ar y maes i babell Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda gweddillion y bara mewn basgedi.

Ond doedd neb o'r Llywodraeth yno i'w derbyn hwy na llythyr yn diolch am gefnogaeth y Cynulliad i ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol "dros gynaladwyaeth a chyfiawnder economaidd yn y byd".

Ym mhabell y CynulliadYn absenoldeb neb o'r Llywodraeth derbyniodd Mr Williams wahoddiad i wneud trefniadau eraill a derbyniwyd y bara gan ddau aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol, Alun Ffred Jones AC a Rhodri Glyn Thomas AC.

"Fe ddigwyddodd yr hyn sy'n cael ei alw yn hiatws gwleidyddol," meddai Mr Williams, "ond mae'r peth wedi bod yn llwyddiant cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn oherwydd y sylw yr ydym wedi ei gael yn dilyn y gwasanaeth ddoe."




Mwy o storiau Dydd Llun


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý