Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Wynebu her ariannol
Dyfroedd ariannol dyrys
Er bod arweinwyr yr Eisteddfod am osgoi fel y pla ddefnyddio'r gair 'argyfwng' i ddisgrifio cyflwr yr Å´yl ar hyn o bryd nid oes amheuaeth ei bod, o leiaf, yn wynebu her arbennig iawn.

Nid yn unig y mae'n parhau heb gartref ar gyfer 2007 ond mae hefyd mewn dyfroedd ariannol hynod o ddyrys - er i gefnogwyr Eryri godi mwy na'r disgwyl o arian ar gyfer eu cronfa leol hwy.

Ond mae trafferthion ariannol yn dal i blagio'r Brifwyl yn ganolog ac nid yw'n gyfrinach y bu'n rhaid torri rhywfaint ar y wadn i ffitio'r droed eisteddfodol.

Pryder mwyaf
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd y mis diwethaf dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod:
"Y pryder mwyaf sy'n wynebu'r Eisteddfod ar hyn o bryd yw'r diffyg yn y fantolen ar gyfer costau gweinyddol canolog."

Eglura i hynny ddigwydd yn dilyn penderfyniad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg cyn belled yn ôl â 1998 i gwtogi ei grant blynyddol i'r Eisteddfod.

Yn sgil hynny collwyd tri aelod o staff.

Fel yr oedd
Cyn y cwtogiad, yr oedd grant y Bwrdd Iaith i'r Eisteddfod yn £376,000 ond i lawr i £276,000 erbyn 1999 gyda chost gweinyddiaeth ganolog yr Eisteddfod £100,000 yn fwy na'r grant!

Cynyddodd y grant yn raddol o 2001, fodd bynnag, ond er ei fod bellach yn £400,000 cwyn yr Eisteddfod yw y dylai fod £60,000 yn fwy na hynny i gyfateb i lefel 1997.

Eisteddfodau anodd
Aeth pethau o ddrwg i waeth yn dilyn eisteddfodau bregus yn ariannol yn 2001 a 2002 ac erbyn Casnewydd, y llynedd, doedd dim digon o arian yn y pwrs i dalu biliau a hynny'n peri i Lywydd y Llys, R Alun Evans, lansio apêl ariannol.

Yn y diwedd, rhoddodd y Cynulliad £160,000 i gael y Brifwyl allan o dwll a fyddai wedi ei gwneud yn fethdalwr.

Ond yn ystod ei ymweliad ef â'r Eisteddfod gwnaeth y Prif Weinidog Rhodri Morgan hi'n glir nad oedd pwll diwaelod o arian.

Mewn adroddiad ar wefan yr Eisteddfod, eglura Elfed Roberts, y cyfarwyddwr:
"Y flwyddyn diwethaf fe ymwelom â Chasnewydd, ardal sydd ddim efo traddodiad Eisteddfodol cryf. Yn sgil hyn roedd ein hincwm ticedi yn is ac ni lwyddodd yr Apêl Leol i godi cymaint o arian. Er hyn roedd hon yn Eisteddfod hynod o lwyddiannus, ac fe wnaeth gyfraniad economaidd a diwylliannol mawr i'r ardal.

"Ond heb y grant ychwanegol o £160,000 gan Lywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith, a'r £125,000+ sydd wedi cael ei godi gan Apêl y Llywydd, byddai dyfodol yr Eisteddfod wedi bod mewn peryg."

Yn hyderus
"Rydym yn hyderus y gallwn godi digon o arian ar gyfer saith o bob 10 Eisteddfod, ond os ydym i barhau i gymryd risg ac ymweld ag ardaloedd a chynulleidfaoedd newydd, bydd rhaid i ni unai gael cronfa wrth gefn neu arian ychwanegol yn y dyfodol."

Cynlluniau arbed arian
Yn ôl y wefan cyflwynodd yr Eisteddfod ei hun gynlluniau i arbed oddeutu £200,000 yn flynyddol ond yr ofn yw, os na fydd hynny yn ddigon, y bydd yn rhaid torri ar weithgareddau.

Meddai Elfed Roberts:
"Byddai cynnydd o £65,000 yn ein grant blynyddol yn cael gwared â'r diffyg yn y fantolen . . . a byddai cynnydd o £100,000+ yn ein galluogi i gyflogi o leiaf un aelod ychwanegol o staff."

Fis Hydref diwethaf pan drosglwyddodd Alun Pugh AC, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon ac Iaith Gymraeg y Cynulliad, £160,000 i'r Eisteddfod i ddatrys ei phroblemau tymor byr cyflwynwyd wyth o dargedau i'r Eisteddfod i ddiweddaru strwythurau, denu cynulleidfa ehangach, â hybu'r defnydd o'r Gymraeg.

Ar wefan yr Eisteddfod ar hyn o bryd mae adroddiad gan Elfed Roberts yn egluro pa gynnydd a wnaed:

a chlicio ar y geiriau "Adroddiad Cynnydd"




About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý