Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwasanaeth bore Sul
Anerchiad Jeff Williams, Cymorth Cristnogol, yn y gwasaneth fore Sul
Ydy, mae masnach yn effeithio ar bawb, er da neu er drwg.
Fe gwrddais â dyn yn eistedd ar ymyl stryd yng nghanol y ddinas - yn crio fel plentyn.

"Fy enw yw Yona," meddai. "Ffarmwr ydw i".

Dwedodd wrthym am ei fferm ddeg erw rhyw gan milltir o'r ddinas lle'r oedd ef a'i wraig yn tyfu bwyd i'w teulu.

Esboniodd wrthym fel y byddai'n tyfu ffa coffi, ac mai'r cynhaeaf yma fyddai'n dod ag incwm i'r teulu.Basged o fara ar gyfer y gwasanaeth

Mewn blwyddyn dda byddai'n ennill jest digon i gwrdd ag angenrheidiau'r teulu. Fel arfer byddai'r arian yn para o gynhaeaf i gynhaeaf.

Ond y flwyddyn arbennig honno roedd pris coffi wedi plymio ar y farchnad fyd-eang ac o wneud ei syms gwelodd Yona y byddai'r gost o gynhaeafu'r ffa, a'u cludo i'r farchnad yn fwy nag y byddai'n gael am ei gnwd.

Byddai ffermwyr Cymru yn gallu cydymdeimlo â rhywun yn y sefyllfa yma.

Wrth gwrs, nid oedd cymorthdaliadau (sybsidis) ar gael i ffermwyr Kenya i gau'r gagendor rhwng y gost o gynhyrchu a'r pris yn y farchnad, a doedd dim arian sbâr gan Yona chwaith.

Felly, fe benderfynodd adael y ffa i bydru ar y llwyni a dod i Nairobi i geisio gwaith ar y strydoedd, i ennill o leia digon i dalu'r rhent ar ei gartref am flwyddyn arall.
Fe fethodd.

Yn yr un picil
Roedd y ddinas yn llawn o bobl yn yr un picil ac ar y diwrnod y cwrddais i ag e' roedd e' wedi penderfynu mynd adre i ddweud wrth ei deulu y byddai'n rhaid iddyn nhw adael y ffarm a symud i ganol ansicrwydd y dref sianti i geisio ennill bywoliaeth.

Doedd Yona'n gwybod dim am fasnach fydeang;
Yn gwybod dim am yr IMF oedd yn dweud wrth wledydd fel Kenya am dyfu mwy a mwy o gnydau allfor - mwy o goffi, mwy o swgr, mwy o gotwm - i ennil doleri i ad-dalu eu dyledion.
Yn gwybod dim am y ffaith fbod llywodraeth ei wlad dan bwysau i agor ei marchnadoedd i fewnforion rhad o wledydd sy'n sybsideiddio eu cynhyrchion.

Y cyfan a wyddai Yona oedd fod pris ffa coffi yn is nag ar unrhyw adeg o'r blaen - newyddion da i'r cwmnïau mawr a'u cwsmeriaid, y newyddion gwaethaf posib i Yona.


Golyga ddinistrio bywyd ei deulu a dwyn eu dyfodol oddi ar ei blant. Ni wyddai sut y byddent yn goroesi. A dyw'r farchnad yn poeni dim, nid oes gan y farchnad galon na chydwybod na dagrau.

Bron a bod yn amhosibl
I gannoedd o filiynau o bobl fel Yona y mae'r dasg o ennill bywoliaeth - o fwyda eu teuluoedd, sicrhau cysgod, iechyd a bywyd sydd a rhyw fesur o lawnder yn perthyn iddo - bron a bod yn amhosibl.

Maen nhw'n wynebu rhwystrau sy'n anodd i ni gredu y gallai neb eu goresgyn:
Prisiau'n plymio ar y farchnad sydd allan o'u rheolaeth nhw.
HIV yn anrheithio calon cynhyrchiol eu pentref neu dref.
Trychineb yn dinistrio eu cartrefi a'u bywoliaeth mewn munud.

Ac - i'r mwyafrif - y dasg feunyddiol o ddygymod â rhwymau tlodi a diymadferthedd.

Does dim gwahaniaeth pa mor galed maen nhw'n gweithio - dy'n nhw ddim yn gallu codi eu hunain allan o dlodi.

Angen Cymorth Cristnogol
Am fod y byd fel y mae i Yona a miliynau tebyg iddo y mae angen Cymorth Cristnogol.

Nid ydym yn derbyn fod yn rhaid i bobl fyw mewn tlodi.

Credwn mai bwriad Duw yw i bawb fwynhau bywyd llawn. Yr ydym yn dyheu, gyda Duw, am fyd sydd wedi ei drawsffurfio gan ddiwedd tlodi, ac y mae profiad Cymorth Cristnogol dros y 60 mlynedd ddiwethaf yn peri i ni fod yn argyhoeddedig ei bod hi'n bosib gwneud gwahaniaeth.

Cymru wedi bod yn dda
Mae Cymru wedi bod yn dda i Cymorth Cristnogol - wedi ei chydnabod fel asiantaith sy'n eiddo i Gymru.

Clywsom eisoes yn yr oedfa hon fel y bu i Gymorth Cristnogol, fel hedyn bach, dyfu a gwreiddio yn nhir Cymru. Drwy ymdrech gwirfoddolwyr a chefnogwyr a staff dros y blynyddoedd lledodd gofal a chonsyrn am y gwanaf a'r tlotaf o blant Duw gan eu cofleidio ac ymdrechu gyda nhw am fyd gwell.

Y mae'r arian a gyfrannodd pobl Cymru dros y blynyddoedd, mewn ymddiriedaeth, drwy Cymorth Cristnogol wedi gwneud, ac yn parahu i wneud gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i lawer - yn llythrennol felly.

Gweld y gwahaniaeth
Brin fis yn ôl rown i yn Senegal, a gwelais drosof fy hun y gwahaniaeth y mae gwaith Cymorth Cristnogol yn wneud.

Treuliais amser mewn pentrefi a oedd gynt yn dangos holl arwyddion tlodi mawr ond yn awr mae plant yn iach.
Mae meysydd yn cael eu dyfrhau a'r cnydau'n tyfu'n dal.

Mae dŵr yfed glân yn llifo o dapiau ymhob cartref.
Mae dynion a gwragedd yn medru darllen ac yn hyderus i ddadlau eu hachos a mynnu eu hawliau.
Ac mae pobl yn medru ennill bywoliaeth a chymunedau yn dathlu eu buddugoliaethau a gwireddu eu breuddwydion.

A'r hyn a roddai'r wefr fwyaf i fi oedd bod Cymorth Cristnogol yn gweithio yn y fath fodd fel bod pobl y pentrefi yn medru dweud:
"Diolch i chi am eich help. Diolch am i chi weld yr hadau o botensial oedd ynom.

"Diolch i chi am sefyll gyda ni.

"Ond yn y pen draw, trwy ein hymdrechion ni ein hunan y llwyddom!"

O ydych, rych chi yn gwneud gwahaniaeth. Fy ngweddi yw y bydd i chi barhau i wneud - tra bod angen.

Pwysig i enaid y genedl
Mae Cymorth Cristnogol yn bwysig i enaid y genedl.

Mae'n helpu Cymru i edrych allan; i weld nad yw'r nod o Gymru gynaladwy yn bosib mewn byd anghynaladwy.

Credaf fod rhywbeth yn ein profiad fel cenedl fach, ein brwydrau dros ein hiaith a'n hunaniaeth, yn ein gwneud yn fwy parod i gydymdeimlo ac uniaethu gyda'r rhai sydd dan orthrwm.

Braint Cymorth Cristnogol fu helpu cyfieithu'r cydymdeimlad yn weithredoedd.

Rhan o bwrpas Cymorth Cristnogol yw dadlenu gwarth tlodi - cyhoeddi'r gwirionedd fel y gwelwn ni ef o'n profiad o weithio yn rhai o gymunedau tlota'r byd.

Holi'r cwestiynau anodd fel yr un a ofynnwyd i mi yn ddiweddar gan un o bartneriaid Cymorth Cristnogol o Affrica:
"Pam mae ffordd o fyw gwledydd y de mor fregus? a ffordd o fyw gwledydd y gogledd mor ddinistriol?"

Mae'r cyfan a wna Cymorth Cristnogol yma yng Nghymru wedi ei anelu at ddenu ymateb ein cyd-Gymry.

Daeth ymateb
A daeth ymateb - Gwelwn haelioni sy'n cynnal y gwaith dros y tymor hir.

Gwelwn ymrwymiad gweddigar pobl sy'n gweld cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn rhan annatod o'u hymateb i Efengyl Iesu Grist.

Mae Cymru wedi gwneud cyfraniadau pwysig i'r ymgyrchoedd mawr diweddaraf.

Os oes gofyn i gynulleidfaoedd ac unigolion Ynysoedd Prydain i godi eu lleisiau o blaid cyfiawnder i'r tlodion - gallwch fentro y bydd yr iaith Gymraeg ac acenion ein gwlad yn eglur iawn yn y fonllef.

Ac oedd, mi roedd moôr o Gymry ymhlith y chwarter miliwn o bobl a aeth i Gaeredin i alw ar yr G8 i rhoi terfyn ar dlodi.

Peth llwyddiant
Cafwyd peth llwyddiant yng Nghaeredin ond dim digon o bell, bell ffordd.

Cyn cyfarfod yr G8 roedd tua 50,000 o blant yn marw o effeithiau tlodi bob dydd.

Erbyn 2010 fe amcangyfrifir y bydd penderfyniadau'r G8 eleni yn golygu y bydd y nifer hwnnw wedi gostwng i 37,000.

Mae'r gwarth yn parhau felly.

Ond, rhyw chwe blynedd yn ôl y frwydr oedd cael yr G8 i drafod tlodi byd o gwbwl.

Efallai mai'r peth pwysicaf oll a ddaeth o Gaeredin oedd yr ymgyrch ei hun - rhaid cadw'r momentwm.

Rhaid adeiladu ar y gefnogaeth eang â welwn ymhob ran o'r gymdeithas.

Cardiau post
Felly, rwy'n eich gwahodd yn ystod yr eisteddfod hon i lenwi cardiau post sy'n gofyn am fasnach gyfiawn, fe ddewch chi o hyd iddyn nhw ar y maes - llenwch nhw a dewch a nhw i stondin Cymorth Cristnogol i ni gael eu danfon at Canghellor y Trysorlys.

Mae Mr Brown eisoes yn gyfarwydd â chael cardiau post o Gymru ac rwy'n siŵr y byddai'n siomedig iawn o beidio clywed dim oddi wrth selogion yr eisteddfod hon!

Mae Iesu'n sôn am ffydd fel hedyn mwstard - peth bach! Anfon cerdyn post? Peth bach!
Plentyn yn marw o newyn pob tair eiliad - peth mawr!

Sut all ein gweithred fach ni wneud gwahaniaeth?

Clywch, mae ffydd fel hedyn mwstard yn gallu dadwreiddio coed a thaflu mynyddoedd i'r mor - mae'r gweithredoedd bach cyson eisoes wedi gwneud gwahaniaeth - os ydym am wneud mwy o wahaniaeth a mwy o ddaioni - rhaid dal ati!

Rhannu bara
Yn ystod yr amser a gymer y gwasanaeth y bore ma, bydd tua 10,000 o blant wedi cael eu geni yn ein byd.

Ein gweddi yw y byddan nhw'n tyfu ac yn ffynnu mewn byd lle bydd pawb yn cael digon i'w fwyta.

Cymryd baraFel rhan o'n gweddi heddiw yr ydym am rannu bara gan gofio am bawb fydd yn ei fwyta yn rhywle yn ystod y dydd.

I lawer o bobl, bydd bwyta bara yn dwyn ystyr symbolaidd crefyddol.

Ond nid gweithred symbolaidd yn canolbwyntio ar y bara ei hun sydd gennym ni heddiw -byddwn yn meddwl yn hytrach, am y briwsion fydd dros ben ac yn eu defnyddio hwy yn sail i'n gweddïau a'n gweithredoedd.

Rhannu'r baraMae basgedaid o fara i bob rhes, gwahanol fathau o fara yn cynrychioli gwahanol wledydd - mewn munud, tra bydd y côr yn canu gofynnwn i chwi gymryd y dorth a rhwygo tamaid ohono gan ofalu fod y briwsion yn cael eu dal yn y fasged cyn ei basio mlaen ar hyd y rhes.

Mwynhewch y bara ond cofiwch fod yr hyn a wnawn gyda'n gweddillion yn bwysig hefyd - dyna pam yr ydym yn eu casglu.

O feddwl ein bod yn dathlu 60 mlynedd o waith Cymorth Cristnogol eleni, y mae'n warth fod cymunedau tlotaf ein byd yn dal i orfod bodloni ar friwsion.

Briwsion cydymdeimlad y cyhoedd,
Briwsion sylw'r wasg,
Briwsion cynlluniau a pholisiau gwleidyddion y gwledydd.

Fel ffordd o dynnu sylw Cymru a'r byd at yr hyn a wnawn yn y pafiliwn y bore ma, bydd Cymorth Cristnogol yn cyflwyno'r briwsion yma ym Mhabell y Cynulliad am 12 o'r gloch yfory.

Yr Archdderwydd yn y gynulleidfaEin neges yw fod angen mwy na briwsion i daclo problemau tlodi'r byd. Yr ydym yn ymrwymo i ddal ati i dynnu sylw at yr anghyfiawnderau sy'n dal i gaethiwo bobl mewn tlodi a gweithio mewn ffydd a gobaith i roi terfyn ar dlodi.


Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý