Ymunwch â Beti George a'i gwesteion i fwrw golwg dros uchafbwyntiau'r dydd yn fyw o'r Eisteddfod Genedlaethol. Cewch hefyd farn ambell i feirniad answyddogol yn ogystal â sgwrs â'r buddugol yn y brif seremoniau, heb anghofio danteithion o'r maes a'r Babell Lên.
Gallwch wrando ar Radio Cymru, neu wylio'r cyfan arlein yma ar ein gwefan Eisteddfod, gyda'r brif eitemau hefyd yn ran o ddarpariaeth deledu'r Â鶹Éç ar S4C.
Ac eleni am y tro cyntaf bydd cyfle i chi gymryd rhan yn y rhaglen ac awgrymu cwestiynau ar gyfer enillwyr y brif seremoniau. Dewch draw i'r Babell Lên erbyn 5.50pm ar nos Lun, Mercher a Gwener i fod yn rhan o gynulleidfa'r rhaglen, neu anfonwch eich cwestiynau a sylwadau ymlaen llaw i:
- Ebost: eisteddfod@bbc.co.uk
- Twitter:
Amserlen Tocyn Wythnos
Dydd Sadwrn 31 Gorffennaf 6pm-7pm
Dydd Llun 2 Awst 6pm-7:30pm
Dydd Mawrth 3 Awst 6pm-7:30pm
Dydd Mercher 4 Awst 6pm-6:45pm
Dydd Iau 5 Awst 6pm-7:30pm
Dydd Gwener 6 Awst 6pm-6:45pm
Dydd Sadwrn 7 Awst 6pm-7pm
Bydd y rhaglenni hefyd ar gael i'w gwylio ar-alw am saith diwrnod ar ôl eu darlledu.
Mwy
Cysylltiadau'r Â鶹Éç
Straeon o'r Maes
Edrych nôl
Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.