Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent, rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst, 2010 yng Nglynebwy.
Gŵyl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, yn y de a'r gogledd bob yn ail yw'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig a gellir ei disgrifio fel gŵyl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn rhan o'r ŵyl, cynhelir cyngherddau nosweithiol ac yn 2010 mae côr Only Men Aloud yn dod adref i agor yr ŵyl yn nghyngerdd gyntaf yr wythnos. Ymysg yr artistiaid eraill sy'n cymryd rhan yng nghyngherddau'r pafiliwn mae Rhydian Roberts (X Factor), Catrin Finch a rhai o sêr Cymru yn y West End. Cynhelir gigs amrywiol bob nos, dramâu, comedi ac arddangosfeydd o gwmpas yr Eisteddfod ac oddi ar y maes swyddogol.
Pryd mae'n digwydd?
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent, rhwng 31 Gorffennaf - 7 Awst, 2010 yn nhref Glynebwy.
Croeso i bawb
Mae croeso i bawb i'r Maes, o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu yn y Ganolfan Groeso wrth gyrraedd y Maes.
Beth i ddisgwyl?
Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd dros 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos (164,689 yn Y Bala yn 2009 a 156,697 yng Nghaerdydd yn 2008). Y pafiliwn mawr pinc yw canolbwynt yr ŵyl - yno mae'r cystadlu'n digwydd o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio. Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremonïau yn gallu cymryd eu lle ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener. Ar nos Fercher a nos Wener yr Eisteddfod mae'r cystadlu'n ail gychwyn ar ôl y seremonïau ac yn parhau tan yr hwyr.
Pris mynediad?
Tocyn Diwrnod i'r Maes yn £15 i oedolion, £13 i bensiynwyr, £9 i blant 12 -18 oed a myfyrwyr (gyda cherdyn NUS) a £3 i blant dan 12 oed (am ddim i blant dan 3 oed).
O gwmpas y Maes a thu hwnt
Os nad y cystadlu sy'n mynd â'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r pafiliwn pinc, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld â nhw. Theatr y Maes, arddangosfeydd celf a chrefft, y Babell Lên, Maes D (pabell y Dysgwyr) yn ogystal â stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau a nwyddau o bob math. Mae nifer o stondinau bwyd o gwmpas y maes, a bar yn gwerthu alcohol hefyd.
Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas yr ardal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dramâu, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos.
Maes D - Mae 'D' yn sefyll am 'Dysgwyr' - Wedi ei leoli ar faes yr Eisteddfod dyma babell i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yma yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadleuthau.
Maes C - Wedi ei leoli fel arfer ar y maes carafanau, nepell o faes yr Eisteddfod. Mae'r adloniant nosweithiol a gynhelir yma wedi ei anelu at y teulu cyfan. Roedd arlwy 2009 yn amrywio o'r Stomp flynyddol a Thalwrn Tafarn gyda Twm Morys i gigs Mynediad am Ddim, Elin Fflur, Tebot Piws, Gwibdaith Hen Fran a mwy.
Straeon o'r Maes
Edrych nôl
Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.