Ar ddechrau tymor fel hyn, mae'r tîmau wedi cael digonedd o gyfleoedd i serennu ar "faes y gad", fel petai. Daeth llwyddiant mawr i ran Lloyd Jones, disgybl ym Mlwyddyn 13 yn ddiweddar wrth iddo chwarae i dîm Ysgolion Gorllewin Cymru yn erbyn Ysgolion De Cymru Newydd, Awstralia.
Fe gefais i gyfle i holi Lloyd, sy'n gapten ar dîm cyntaf ysgol Bro Myrddin i weld beth oedd ei farn ef. Mae Lloyd yn brysur iawn gyda thîm yr ysgol ond hefyd yn cynrychioli tîm 7 bob ochr Cymru o dan 19 oed.
Felly fe ofynnes i i Lloyd os oedd ganddo unrhyw dips ar sut i chwarae rygbi neu sut i ymuno â chlwb er mwyn chwarae rygbi ar gyfer cystadlu.
Ei gyngor oedd, "i gadw'n ffit, i roi o'ch gorau bob tro, cadw'n cŵl ar y maes ac i fwynhau rygbi!"
Mae bechgyn Blwyddyn 10 wedi cael cryn dipyn o lwyddiant hefyd, ar ôl chwarae 6 gêm a'u hennill bob un, mae dyfodol rygbi Cymru yn edrych yn addawol iawn.
Bu'r bechgyn yn cynrychioli rhanbarth Caerfyrddin ac yn eu gêm gyntaf oddi cartref, ennill wnaethant o 7 - 0.
Cefais gyfle i holi Alex Evans a Trystan Davies, dau o aelodau'r tîm ynglŷn â'u profiadau.
Dywedodd Alex wrtha i ei fod wedi sgorio pum cais yn ystod y tymor. Trystan Davies sy'n casglu'r bêl allan o'r sgrym ac mae wedi sgorio pedair cais y tymor yma". Eu tips nhw oedd "i gadw'n ffit ac i joio!"
Y llynedd daeth braint i ran dau o aelodau'r tîm drwy ennill capiau i Gymru, ac mewn noson gyflwyno ym Mhant Glas, Dryslwyn fe gafodd y disgyblion eu capiau gan y dyn ei hun, cyn seren rygbi Cymru, Ray Gravelle (gweler y llun uchod).
Felly mae dyfodol rygbi Ysgol Bro Myrddin yn edrych yn addawol iawn ac mae'r un yn wir am ddyfodol rygbi Cymru.
Gan: Sian , Teleri a Ffion
|