Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Clwb pel droed Bancffosfelen - y tim yn y 1930au Clwb Pêl - Droed yn 50
Mai 2008
Eleni mae'r clwb yn dathlu ei hanner can mlwyddiant, ac yn briodol fe wahoddwyd pawb yn gysylltiedig â'r clwb oddi ar 1957 - 1958 i Ginio Dathlu Hanner can mlwyddiant nos Sadwrn 29ain o Fawrth.

Cynhaliwyd yr achlysur yn y "Poacher's Rest" yng Nglanyfferi, gyda dros gant yn bresennol.

y tim 1af tymor 1975 - 1976. Dyrchafiad i'r brif adranFe ddaeth rhai aelodau mor bell ag o Aberystwyth a Chaerdydd, i dreulio noson gyda'i gilydd yn hel atgofion am yr amser gynt. Yn bresennol hefyd roedd y timau presennol, a chafwyd noson o fwynhad gyda'r hen a'r ieuanc a hefyd eu gwragedd a'u cariadon.

I ddathlu'r digwyddiad, gyda'r trefniadau yn nwylo medrus Wyn James, Llangyndeyrn, sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r clwb ers pymtheng mlynedd ar hugain, rhoddwyd DVD i bob aelod, yn cynnwys lluniau ac ystadegau yn dangos datblygiad y clwb. Paratowyd y DVD yn fedrus gan Wyndham Lewis, Pontyberem, ac wrth weld yr ymddangosiad cyntaf, roedd pawb yn bresennol yn synnu at y safon uchel, gyda'r DVD yn llawn o wybodaeth diddorol.

Y llun cyntaf a welwyd oedd hwnnw o'r tîm yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd, yn nhymor 1938 - 39 (gweler uchod). Yn gynwysiedig roedd cymeriadau o'r dyddiau gynt, dau ohonynt wedi eu lladd yn y rhyfel, ac un arall a fu farw mewn damwain tanddaearol yn y diwydiant glo, ond un chwaraewr, sef Islwyn Wilkins, Brynawelon, Bancffosfelen, sydd yn naw a phedwar ugain mlwydd oed ac yn parhau i fwynhau gweld chwaraeon o bob math. Bydd y DVD yn swfenir gwerthfawr i bawb i'w fwynhau yn y dyfodol. Yn ystod yr ymddangosiad cyntaf cafwyd sylwebaeth gan Wyn James, a bu hwnnw'n fwynhad ychwanegol.

Gwahoddwyd dau o'r hen aelodau i siarad: Dr. Keith Rowlands, Aberystwyth, yn gyntaf, ac fe soniodd am ei falchder o fod yn gysylltiedig â'r clwb. Soniodd Haydn Scaife, Crwbin, am y digwyddiad pan huriodd y clwb fws y Western Welsh i fynd â'r tîm i Lanelli yn y 1950au, a thorri lawr ym mhentref Llannon. Un nodyn trist yn ystod y dathlu oedd ymadawiad Gordon Miles, capten cyntaf o Glwb Pêl-droed Bancffosfelen ym 1957.

Daeth y noson gofiadwy i ben gyda'r diddanwr enwog, David Reynolds, ar ei orau


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý