Â鶹Éç

Dic Jones - Dic yr Hendre - 1934 - 2009

Dic Jones

18 Awst 2009

Bu farw Richard Lewis Jones - Dic Jones, Dic yr Hendre - awdur un o awdlau eisteddfodol gorau yr ugeinfed ganrif ddydd Mawrth, Awst 18, 2009.

Bu'n dioddef o ganser ers tro a methodd a chyflawni ei ddyletswyddau fel Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 a chyn hynny, fis Gorffennaf, yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy.

Heb os yr oedd yn gynganeddwr gyda'r medrusaf a'r mwyaf cywrain wedi dysgu ei grefft wrth droed Alun Cilie.

Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ond bu'n rhaid iddo ildio'i wobr yr eildro, yn 1976, am nad oedd ganddo hawl i gystadlu dan y rheolau ar y pryd.

Cyhoeddodd y cyfrolau hyn:

  • Agor Grwn (TÅ· John Penry, 1960)
  • Caneuon Cynhaeaf (TÅ· John Penry, 1969)
  • Storom Awst (Gomer, 1978)
  • Sgubo'r Storws (Gomer, 1986)
  • Os Hoffech Wybod (Gwasg Gwynedd, 1989)
  • Golwg Arall (Gomer, 2001)
  • Golwg ar Gân (Gwasg Gwynedd, 2002)
  • Cadw Golwg (Gwasg Gwynedd, 2005)

Rhagor am Dic Jones ar ein gwefan:

Wedi ei farwolaeth cyfansoddodd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, 'englyn' Saesneg iddo a rydd gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Menna Elfyn:

Dic yr Hendre
Bard of birdsong, singer of harvest - this
eloquent elegist
of farm, field and fold, silenced
like the blackbird in August.

Dic yr Hendre
Telor, y cantor cyntaf - a hen hoedl
ei awdlau'n gynhaeaf;
Gwennol hedodd o'r gwanaf,
Distewi, a rhewi'r haf.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.