Bardd ac Archdderwydd Cymru
Archdderwydd, prifardd, storïwr, darlledwr a ffermwr oedd Richard Lewis (Dic) Jones. Er ei fod yn enwog drwy Gymru gyfan, dyn ei filltir sgwâr oedd ac roedd ei waith yn adlewyrchu'i gynefin yn Ne Ceredigion yn ffermio'r Hendre, Blaenannerch ger Aberteifi.
Daeth cynganeddu yn rhwydd iawn iddo ac ysgrifennodd sawl ysgrif mewn cynghanedd.
Bu'n brentis bardd i Alun, un o fois y Cilie, ac yng nghwmni'r teulu enwog hwn y datblygodd fel bardd ifanc.
Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd bump o weithiau a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberafan yn 1966 am ei awdl Y Cynhaeaf.
Yn 1976 collodd y cyfle i gael ail Gadair pan dorrodd un o reolau'r gystadleuaeth gan gystadlu pan oedd ar y Pwyllgor ³¢±ôê²Ô.
Felly, enillodd Alan Llwyd y gadair gan sicrhau ei ail ddwbl, sef y goron a'r gadair.
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Y Fflint a'r Cyffuniau 2007 cyhoeddwyd y byddai Dic Jones (Dic yr Hendre) yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru y flwyddyn ddilynol.
Ymysg y llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi gan Dic Jones oedd Agor Grwn (1960); Caneuon Cynhaeaf (1969);Storom Awst (1978);Sgubo'r Storws (1986);Golwg ar Gân (2002);Cadw Golwg (2005).
Hunodd Dic Jones ar 18 Awst 2009.
Os ydych chi am dalu teyrnged i Dic Jones gallwch e-bostio newyddionarlein@bbc.co.uk Fe fydd y teyrngedau yn ymddangos ar y wefan.
Ymwadiad: Gall y Â鶹Éç olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi. Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y Â鶹Éç drwy'r byd. Am fwy o fanylion ewch i safle Preifatrwydd a Chwcis y Â鶹Éç.