Yr eilydd, Endaf Howells groesodd am y cais hollbwysig yn yr eiliadau olaf.
Cafodd y cais ei drosi'n llwyddiannus gan Howard Thomas i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i'r Porthmyn.
Llanymddyfri oedd wedi bod ar y blaen am y mwyafrif o'r gêm, gyda Vivian Jenkins yn croesi am gais yn yr hanner gyntaf.
Ond roedd hi'n ymddangos bod Caerdydd yn mynd i dorri eu calonnau gyda munud o'r gêm yn weddill.
Roedd Craig Evans yn llwyddiannus gyda chic adlam hwyr gan roi Caerdydd ar y blaen am y tro cyntaf.
Aeth Caerdydd ymhellach ar y blaen yn ystod y saith munud o amser ychwanegwyd ar gyfer anafiadau cyn i Howells sgorio cais dramatig gafodd ei drosi gan Thomas.
Caerdydd: J Roberts; E Jones, R Davies, R Jones, L Andrews; C Evans, T Isaacs; R Gill, R Johnston, S Roberts, C Stamatakis, J Down, G Lucas, A Powell, G Gravell (capten).
Eilyddion: R Price, G Gunter, A Murphy, M Amos, N Hampson, D Allinson, L Halfpenny.
Llanymddyfri: I Davies; O Rowlands, M Jones, J Lewis, V Jenkins; H Thomas, R Walters; P John, E Phillips, AB Jones, T Walker, A Davies (capten), E Gwynne, J Mills, G Williams.
Eilyddion: E Howells, AR Jones, S Covington, G Bennett, A Williams, G Jones, E Evans.
Dyfarnwr: Hugh Watkins (Maesteg)
|