Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 10 Mehefin 2006
Trinidad a Tobago 0-0 Sweden

Cafwyd canlyniad gwych gan Trinidad a Tobago wrth i 10-dyn y Soca Warriors ddal Sweden i gêm ddi-sgôr yn eu gêm gyntaf erioed yng Nghwpan y Byd.

> adroddiad y gêm

Sgôr Terfynol: Trinidad a Tobago 0-0 Sweden

90 mun: Mae Trinidad a Tobago yn haeddu parch mawr am beidio ceisio amddiffyn trwy gydol yr ail hanner wedi iddynt fynd i lawr i 10-dyn, yn wir, mae Cornell Glenn yn parhau i ganfod bylchau tu ôl i amddiffyn Sweden.

86 munud: Pedwar munud yn weddill ond mae Dennis Lawrence i'w weld wedi anafu ac yn hercian o amgylch y cwrt cosbi - mae ewinedd cefnogwyr Trinidad a Tobago i lawr i'r byw!

80 mun: Llwyddodd Rami Shaaban i bwnio'r bêl yn glir o dan bwysau gan Dennis Lawrence ac ar ben arall y maes cafwyd tacl bendigedig gan Carlos Edwards ar Frederik Ljungberg yng nghwrt bach Trinidad a Tobago.

79 mun: Cafwyd arbediad gwych arall gan Shaka Hislop i atal Marcus Allback - ffaith sydd hyd yn oed fwy syfrdannol o gofio mai eilydd hwyr iawn oedd Hislop wedi Kelvin Jack anafu tra'n cynhesu cyn y gêm.

75 mun: Dim ond chwarter awr sy'n weddill i Trinidad a Tobago geisio dal allan am ganlyniad hanesyddol ond mae Marcus Allback yn parhau i greu trafferthion yn eu hamddiffyn.

69 mun: Roedd angen Dennis Lawrence a Shaka Hislop i gyfuno i atal Marcus Allback rhag ergydio yn y cwrt bach.

58 mun: Roedd dihangfa i Sweden wrth i Cornell Glenn daro'r trawst â tharan o ergyd o ochr y cwrt chwech i synnu'r gwyr o Sgandinafia

57 mun: Mae Sweden yn dechrau defnyddio eu mantais trwy greu lle i'r cefnwyr groesi a bu bron i'r dim i Zlatan Ibrahimovic eu rhoi ar y blaen â pheniad o groesiad Erik Edman.

52 mun: Mae Leo Beenhakker wedi dewis eilyddio Collin Samuel a gyrru ymosodwr Los Angeles Glaxy, Cornell Glen, i'r maes, er eu bod i lawr i 10-dyn.

46 mun: Cerdyn Coch - Avery John (Trinidad a Tobago) :
John yw'r chwaraewr cyntaf i gael ei hel o'r maes yng Nghwpan y Byd 2006 wedi iddo dderbyn ei ail gerdyn melyn am dacl ar Christian Wilhelmsson

Hanner Amser Trinidad a Tobago 0-0 Sweden

45 +2 mun: Mae Trinidad a Tobago eisoes wedi dal allan yn hirach na Costa Rica, Gwlad Pwyl a Paragwai ac maent yn creu ambell i broblem i Sweden wrth wrthymosod.

45 mun: Cafodd Carlos Edwrads gyfle arall â pheniad grymus o groesiad Collin Samuel.

40 mun: Tarodd Christian Wilhelmsson ergyd wych a bu rhaid i golwr Trinidad a Tobago fod ar ei orau i droi'r bêl allan am gic gornel.

37 mun: Daeth Henrik Larsson o fewn trwch blewyn o roi Sweden ar y blaen wrth redeg ar draws y cwrt bach a phenio croesiad Fredrik Ljungberg heibio'r postyn.

35 mun: Cafwyd tacl bwysig gan Avery John ar ochr cwrt cosbi Trinidad a Tobago i atal Zlatan Ibrahimovic rhag carlamu tuag at y gôl.

33 mun: Daeth cyfle gorau Trinidad a Tobago o ergyd hyfryd gan cyn chwaraewr Wrecsam, Carlos Edwards, ond yn anffodus i'r Soca Warriors, roedd ei ergyd yr uchder perffaith i Rami Shaaban.

21 mun: Cafqwyd rhediad hyfryd i lawr yr asgell dde gan Zlatan Ibrahimovic ond methodd Henrik Larsson â chyfarfod ei groesiad hyfryd.

19 mun: Llwyddodd Freddie Ljungberg i ganfod Zlatan Ibrahimovic â phas gelfydd ond methodd ymosodwr Juventus â tharo ergyd lan.

13 mun: Mae Avery John yn ffodus mai cerdyn melyn yn unig gafodd wedi tacl erchyll ar Christian Wilhelmsson

5 mun: Llwyddodd golwr Sweden, Rami Shaaban i gasglu cic rhydd Dwight Yorke yn gyfforddus cyn i Dennis Lawrence gael cyfle i neidio.

3 mun: Cafodd Frederik Ljungberg ei lorio ar ochr y cwrt cosbi ac o'r cic rhydd ddilynodd, tarodd Henrik Larsson y bêl heibio'r postyn.

2 mun: Daeth cyffyrddiad cyntaf Dennis Lawrence wrth iddo ennill y bêl oddi ar ymosodwr Juventus, Zlatan Ibrahimovic.

1705 BST: Shaka Hislop sydd yn dod i'r maes rhwng y pyst i Trinidad a Tobago er mai Kelvin Jack oedd ar rhestr timau'r Soca Warriors. Anafodd golwr Dundee ei ben-glin tra'n cynhesu ar gyfer y gêm.

NEWYDDION

Ni fydd amddiffynnwr Rangers, Marvin Andrews, yn chwarae dros Trinidad a Tobago yn eu gêm cyntaf erioed yng Nghwpan y Byd wedi iddo droi ei ben-glin tra'n ymarfer.

Brent Sancho, amddiffynwyr Gillingham, sydd yn chwarae ochr yn ochr â Dennis Lawrence wrth i amddiffynnwr Wrecsam greu mymryn bach o hanes wrth ddod y chwaraewr cyntaf erioed o Wrecsam i ymddangos yng Nghwpan y Byd.

TIMAU

Trinidad a Tobago: Hislop, Avery John, Sancho, Lawrence, Gray, Birchall, Edwards, Theobald, Samuel, Stern John, Yorke.

Eilyddion: Andrews, Charles, Cox, Glen, Jack, Ince, Jones, Latapy, Scotland, Whitley, Wise, Wolfe.

Sweden: Shaaban, Linderoth, Mellberg, Lucic, Edman, Ljungberg, Alexandersson, Anders Svensson, Wilhelmsson, Ibrahimovic, Larsson.

Eilyddion: Allback, Alvbage, Andersson, Elmander, Hansson, Isaksson, Jonson, Kallstrom, Nilsson, Rosenberg, Stenman, Karl Svensson.

Dyfarnwr: Shamsul Maidin (Singapore)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý