|
Newidiwyd diwethaf:
09
Mai
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Ecuador ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp A: v Gwlad Pwyl 09 Mehefin 2000 BST, Gelsenkirchen
v Costa Rica 15 Mehefin 1400 BST, Hamburg
v Almaen 210 Mehefin 1500 BST, Berlin
Daeth y rhan helaeth o bwyntiau Ecuador yn y gemau rhagbrofol o'u gemau cartref yn y brifddinas, Quito, sydd 2850m (9300 tr) yn uwch na lefel y môr.
Ac er fod cnewyllan o'u carfan â phrofiad o chwarae yng Nghwpan y Byd 2002, dim ond dau aelod o'r garfan sydd â phrofiad o chwarae yn Ewrop.
Collodd y tîm gêm gyfeillgar â Gwlad Pwyl 3-0 yn Sbaen yn ddiweddar ac mae'n syndod i feddwl mai dyma'r trydydd gêm yn unig i Ecuador chwarae yn Ewrop.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Llwyddodd Ecuador i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn 2002 gan orffen ar waelod eu grŵp wedi colli yn erbyn Yr Eidal a Mecsico.
Ond llwyddodd y tîm i drechu Croatia yn eu gêm olaf i sirhau nad oeddent yn teithio yn ôl i Dde America yn waglaw.
Sêr y tîm: Edison Mendez rwydodd y gôl holl bwysig drechodd Craotia yn 2002 ac mae'r chwaraewr amryddawn yn parhau i serenu dros ei wlad.
Cyn ymosodwr Southampton, Augustin Delgado, yw prif sgoriwr Ecuador, ac er ei fod bellach yn 31-mlwydd-oed, mae'n parhau i rwydo goliau di-ri dros ei wlad.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Fel Costa Rica, y nod i Ecuador fydd gorffen yn ail tu ôl i'r Almaen yng Ngrŵp A, ond mae'n annhebygol iawn byddent yn camu ymhellach na hynny.
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|