Â鶹Éç

Gwibdaith Hen Fran

Gwibdaith Hen Fran

Ysbryd yr ifanc ar hen offerynnau

Aelodau

  • Phil Lee Jones: Ukulele
  • Paul Thomas: Gitâr
  • Geth Thomas: Gitâr
  • Robi Buckley: Bas Dwbwl

Tybed a oes yna grŵp arall sy'n cyfleu'r teimlad o fwynhau bywyd yn well na Gwibdaith Hen Frân?

Does ryfedd eu bod nhw wedi ennill cymaint o boblogrwydd mewn byr amser. Ar record ac yn fyw, mae perfformiadau'r grŵp yn cyfleu criw o ffrindiau sy'n cael hwyl yn jamio yng nghornel y dafarn - a'r newyddion da yw ein bod ni wedi'n gwahodd i'r parti hefyd.

Ffurfiwyd y grŵp yn 2006 gan Phil Jones, oedd eisoes yn brysur gydag Estella, Mim Twm Llai, Vates, Jac ac Y Mistecs, a thri ffrind o ardal Blaenau Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth. Mae eu caneuon yn clodfori pethau bychain - ond pwysig - bywyd: cyri, carots, coffi a chwrw yn enwedig, a hynny ar offerynnau traddodiadol acwstig.

Ers rhyddhau eu halbwm gyntaf Cedors Hen Wrach yn 2007, mae Gwibdaith i'w clywed yn gyson ar y radio ac yn chwarae mewn gwyliau. Yn 2010 cyhoeddodd y band yr albwm, Llechan Wlyb ar label Rasal.

Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd dau o aelodau Gwibdaith Hen Frân - Paul Thomas a Robert Ifan Buckley - eu bod yn bwriadu gadael y band. Fodd bynnag, cyhoeddodd Philip Lee Jones y buasai Gwibdaith Hen Frân yn parhau i berfformio hyd yn oed os byddai'r ddau yn gadael.

Yn 2011 enillodd y band Wobr Roc a Phop Â鶹Éç Radio Cymru am y grŵp sydd wedi bod ar frig Siart C2 fwyaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Does dim rhaid ymdrechu'n rhy galed er mwyn dysgu'r geiriau. Gyda'n gilydd: "Trôns dy dad, gyda'r twll yn y canol - ma nhw'n wahanol!"

Newyddion

Y Sioe Frenhinol

Royal Welsh, Sioe Frenhinol, Gwibdaith Hen Fran

13 Gorffennaf 09

Manylion gigs Y Sioe

Caneuon Nadolig

12 Tachwedd 2007

Mae Gwibdaith Hen Frân yn recordio cân Nadolig eleni... gyda rhai o gyflwynwyr C2!

Caneuon Nadolig

12 Tachwedd 2007

Mae Gwibdaith Hen Frân yn recordio cân Nadolig eleni... gyda rhai o gyflwynwyr C2!

Adolygiadau

Adolygiad CD Gwibdaith Hen Fran

3 Mai 2010

Beth yw barn yr adolygwyr am albym Gwibdaith Hen Fran - Llechan Wlyb?

Adolygiad CD Gwibdaith Hen Fran

04 Awst 2008

Beth yw barn yr adolygwyr am Gwibdaith Hen Fran - Tafod Dy Wraig?

Gwibdaith Hen Fran

Awst 09, 2007

Erthyglau

Cân am Sana

5 Rhagfyr 2007

Cyfle i glywed cân Nadolig Gwibdaith Hen Frân a C2, a gweld lluniau a fideos!

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...

Gwobr Siart C2

Gwobr am y grwp sydd wedi bod ar frig Siart C2 fwyaf yn ystod y flwyddyn.

Sesiwn Unnos 1

Y criw cyntaf o gerddorion i dderbyn her y Sesiwn Unnos oedd Pen-ta-gram (Ed Holden/Mr Phormula, Hoax ac Alex Moller) a Robbie Buckley o Gwibdaith Hen Frân. Mae'r traciau gorffenedig i'w clywed isod.


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

Â鶹Éç Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.