Y gigs ym Mhentref Ieuenctid y Sioe Frenhinol yw un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yng nghalendr aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru.
Gyda nifer o enwau mawr wedi perfformio dros y blynyddoedd mae'r flwyddyn yma yn edrych yn well nac erioed gyda'r Goldie Lookin Chain, Gwibdaith Hen Fran a'r DJ enwog Dave Pearce ymysg y perfformwyr.
Dai Baker fydd ar raglen Magi nos Fercher Gorffennaf 15fed gyda rhagflas i ni o'r hyn fydd yn digwydd. Bydd Dai yn ail ymuno a Magi nos Lun a nos Fawrth gyda newyddion o'r Pentref Ieuenctid.
Dyddiadau:
Gorffennaf 19 - 22
Lleoliad:
Pentre'r Ieuenctid, Y Sioe Frenhinol, Llanelwedd
Bandiau:
Goldie Lookin Chain, Gwibdaith Hen Fran, Fushanti, Soul'd Out, Your Mum, DJ Dave Pearce
Pris Tocynnau:
Tocyn wythnos (i aelodau): £28
Tocyn wythnos (ddim yn aelod): £33
Tocyn noson: £10
Gwefan:
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.