Mae pobl yn holi i fi o le ddaeth fy llais, a'r ffaith yw, dwi ddim yn gwybod! Pam fod dy lygaid y lliw ydyn nhw? Dyw e ddim yn ateb o gwbl ond dyna'r unig ateb sydd gen i.
Duffy
Pan ddaeth cantores ifanc o'r enw Aimee Duffy yn ail ar y gyfres gyntaf o Waw Ffactor 'nôl yn 2003, pwy fyddai'n meddwl y byddai hi ymhen ychydig o flynyddoedd yn codi ar ei thraed i ennill gwobr Grammy?
Yn y cyfamser, rhyddhaodd EP yn Gymraeg, tyfodd ei gwallt, collodd ei henw cyntaf, ond yr un llais unigryw oedd i'w chlywed ar y Waw Ffactor yn 2003 sydd wedi dod â llwyddiant ysgubol iddi.
Un o feirniaid Waw Ffactor, Owen Powell, gynt o Catatonia, oedd yn gyfrifol am gyflwyno Duffy i'w rheolwr Jeannette Lee, o label recordiau Rough Trade - a dyna ddechrau ei gyrfa ryngwladol ryfeddol.
Ddechrau Mawrth 2008, wedi bron i bedair blynedd o recordio, ymarfer a chyfansoddi, rhyddhawyd ei halbwm gyntaf, Rockferry. Erbyn hynny, diolch i'w hymddangosiadau ar raglen Jools Holland, a llwyddiant anhygoel y gân Mercy a fu'n rhif un ym Mhrydain a 12 gwlad arall, roedd disgwyl pethau mawr gan Duffy - ac felly y bu. Erbyn hyn mae'r albwm wedi gwerthu dros bum miliwn o gopïau o amgylch y byd - ac ar silff ben tan Aimee o Nefyn mae tair gwobr Brit ac un Grammy.
Cyfrinach Duffy yw ei chaneuon diamser, a'i llais unigryw, a ddatblygodd, meddai, wedi iddi hi dreulio'i hieuenctid yn smygu. Er mor ddiymhongar y gall ymddangos, hyd yn oed yn nyddiau'r Waw Ffactor roedd gan Duffy hyder yn ei thalent, ac roedd yn benderfynol o lwyddo.
Ar ddiwedd 2010 fe gwblhaodd ei hail albwm, 'Endlessly' ond ni chafodd yr albwm yma hanner cymaint o glod â'r un gyntaf. Roedd rhai o'r beirniaid o'r farn ei bod wedi glynu yn rhy slafaidd at y sain retro fu'n gymaint o lwyddiant iddi yn 2008, heb roi digon o stamp modern a sylweddol ar y caneuon.
Yn ystod yr un cyfnod, ymddangosodd Duffy fel actores yn y ffilm, 'Patagonia' gyda Matthew Rhys. Yn Chwefror 2011, cyhoeddodd y gantores y byddai'n cael saib o'r byd cerddorol cyn dechrau ar y gwaith o greu ei halbwm nesaf.
Newyddion
Dyw hi ddim yn Duff
Ebrill 1, 2004
Adolygiadau
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Â鶹Éç Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.